Newyddion S4C

Serennu mewn cyfres Gymraeg yn 'brofiad mor dda' i ffoadur o Syria

Ali

Mae ffoadur o’r Dwyrain Canol wedi dweud mai serennu mewn cyfres cyfrwng Cymraeg oedd un o’r “profiadau gorau” y mae erioed wedi ei gael. 

Yn wreiddiol o Syria, mae Mohamad Ali Masri - neu Ali - wedi bod yn byw yn Abertawe ers 2019 ar ôl iddo orfod ffoi o’i famwlad gyda’i deulu. 

Ag yntau'n gweithio fel cogydd ar hyn o bryd, fe fydd yn ymddangos ar y sgrin fach ym mis Mehefin fel rhan o gyfres newydd ar Hansh o’r enw Hafiach. 

Mae’r gyfres yn dilyn taith grŵp o bobl ifanc yn Y Rhyl wrth iddyn nhw geisio datrys llofruddiaeth a ddigwyddodd yno. 

Mae Ali, 23 oed, yn chwarae rôl y ffoadur Aabis yn y gyfres, ac mae’n dweud bod ei brofiadau personol o ddod i’r wlad hon wedi ei helpu yn y broses o bortreadu'r cymeriad. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Fe ddes i i’r wlad yma fel ffoadur a doedd e ddim yn amser da iawn achos doedd gen i ddim Saesneg o gwbl. 

“Roedd hyn yn 2019 ac yn amlwg fe ddigwyddodd Covid yn fuan wedyn felly doedd dim llawer iawn o amser ‘da fi i astudio’r [iaith].

“Ro’n i wedi wynebu sefyllfaoedd anodd o ran yr iaith.

“Pan ti’n mynd i wlad wahanol gydag iaith wahanol – o’n i wedi dod o’r Dwyrain Canol i Ewrop. 

“Mae’r ffordd o fyw yn wahanol ac mae’r iaith yn wahanol felly dyw e ddim yn hawdd iawn,” meddai.

Image
Image
Hafiach

'Profiad gorau'

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i Ali, a gafodd radd mewn cyfrifeg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y llynedd, actio’n broffesiynol. 

Ac er nad yw’n siarad yr iaith, roedd y profiad o gyflawni hynny ar set iaith Gymraeg yn “dda iawn,” meddai. 

“Roedd e mor dda, o’n i wedi cael cefnogaeth da iawn gan y tîm ac roedden nhw’n dweud wrtha’i o hyd: ‘Da iawn, rwyt ti’n ‘neud yn dda, cer amdani.’

“Wnes i fwynhau gymaint, roedd yn un o’r profiadau gorau dwi erioed wedi ei gael.” 

Ond roedd gweithio dan y fath amgylchiadau wedi bod yn heriol i Ali hefyd, esboniodd. 

“Pan rwyt ti’n o gwmpas pobl sydd yn siarad mewn iaith wahanol – fe ‘nath e fynd a fi yn ôl i’r dyddiau tywyll pan ddes i’r wlad yma heb unrhyw Saesneg. 

“Roedd e’n [profiad] dda ond yn heriol ar yr un pryd achos do’n i methu cyfathrebu yn uniongyrchol gyda phobl.” 

Image
Image
Hafiach

Cymorth yn 'golygu llawer'

Yn ôl Norman Gettings o elusen Oasis yn Y Sblot, Caerdydd, roedd cynhyrchydd y gyfres, Llyr Morus yn awyddus i sicrhau mai rhywun gyda “phrofiad gwirioneddol” o fod yn ffoadur oedd yn cael chwarae rôl Aabis.

A thrwy gydweithio gydag elusennau yng Nghymru, fe ddaeth talent Ali i’r amlwg.

Roedd elusen Oasis wedi bod o gymorth yn ystod y broses o gynhyrchu’r gyfres, esboniodd Mr Gettings.

Wedi i’r cyfnod o ffilmio ddod i ben, fe gafodd gwisgoedd cymeriadau Hafiach eu rhoi i’r elusen. Fe wnaeth Oasis rhoi'r dillad i elusen Canolfan Trinity yn Y Sblot. Fe wnaethon nhw wedyn ddarparu'r dillad i bobl mewn angen.

Gan fod prinder arian gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, roedd cael dillad newydd am ddim yn “golygu llawer” iddynt, medd Mr Gettings. 

“Maen nhw angen cael dillad priodol ar gyfer y flwyddyn ac mae hynny’n golygu eu bod nhw’n cadw gafael ar ychydig mwy o urddas.

“Mae ceiswyr lloches sy’n byw mewn gwestai yn derbyn tua £8 yr wythnos ac mae pobl sydd yn llety’r Swyddfa Gartref ddim ond yn derbyn tua £49 yr wythnos. 

“Does neb sy’n ceisio am loches neu sydd yn ffoadur yn y sefyllfa yna drwy eu penderfyniad nhw, mae’n rhaid iddynt wneud gan nad oes dewis arall.” 

Bydd dangosiad arbennig o bennod gyntaf Hafiach ar faes Eisteddfod yr Urdd am 15.00 ddydd Iau, 29 Mai. Bydd yn cael ei darlledu ar Hansh ar 4 Mehefin. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.