Newyddion S4C

Jay Slater wedi marw 'o anaf i'w ben' yn Tenerife

Jay Slater

Mae llys crwner wedi clywed fod Jay Slater, y dyn ifanc a ddiflannodd yn Tenerife yr haf diwethaf, wedi marw o anaf i’w ben.

Roedd Mr Slater, 19, o Oswaldtwistle, Sir Gaerhirfryn, ar wyliau ar yr ynys ar y pryd. 

Roedd wedi bod i ŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo yn Playa de las Americas gyda ffrindiau ar 16 Mehefin y llynedd.

Y gred yw ei fod wedi mynd i fflat gyda phobl eraill yr oedd wedi cwrdd â nhw yn oriau mân y diwrnod wedyn.

Yna fe ddiflannodd wedyn ac fe adroddwyd ei fod ar goll ar 18 Mehefin.

Cafwyd hyd i’w gorff mewn man serth ac anghysbell gan dîm achub mynydd o Warchodlu Sifil Sbaen ger pentref Masca ar 15 Gorffennaf.

Roedd ei fam Debbie Duncan, ei lystad ac aelodau eraill o'r teulu yn bresennol yn y cwest i farwolaeth Mr Slater yn Llys Crwner Preston ddydd Mercher.

Anafiadau

Disgrifiodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Richard Shepherd, yr anafiadau a ddarganfuwyd ar Mr Slater o gasgliadau ei archwiliad post-mortem.

Dywedodd Mr Shepherd fod y prif ganfyddiadau yn gysylltiedig ag anafiadau i'r pen a'r pelfis.

Gofynnodd Dr James Adeley, uwch grwner dros Sir Gaerhirfryn a Blackburn gyda Darwen, i’r tyst a oedd unrhyw awgrym o ymosodiad ar Mr Slater.

Dywedodd Dr Shepherd: “Mae hynny’n rhywbeth y gwnes i ei ystyried yn ofalus iawn, rhywbeth y byddwn bob amser yn ceisio’i nodi.

“Mae patrwm yr anafiadau pan fydd rhywun yn cael ei ymosod neu ei atal yn wahanol iawn i’r math o anafiadau a phatrwm a ddarganfyddais gyda Jay.”

Ychwanegodd Dr Adeley: “Dim byd i awgrymu bod hynny’n wir?”

Dywedodd Dr Shepherd: “Dim byd i awgrymu ymosodiad, gafael, ei ddal, dim byd o’r fath.”

Aeth Dr Shephard yn ei flaen i gofnodi achos swyddogol y farwolaeth fel anaf i'r pen.

Cafodd y cwest ei ohirio ar gais teulu Jay Slater ddydd Mercher.

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.