Keir Starmer yn awgrymu tro pedol ar daliadau tanwydd y gaeaf i bensiynwyr
Keir Starmer yn awgrymu tro pedol ar daliadau tanwydd y gaeaf i bensiynwyr
Mae Syr Keir Starmer wedi awgrymu y bydd yn gwneud tro pedol wedi i daliadau tanwydd y gaeaf gael eu dileu ar gyfer nifer fawr o bensiynwyr.
Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyfyngu'r taliadau ar gyfer pensiynwyr ar gredydau pensiwn neu fudd-daliadau eraill yn unig.
Cafodd y taliad sydd rhwng £100 a £300 ei roi i 11.3 miliwn o bensiynwyr yn y DU yn ystod gaeaf 2022-23, i'w cynorthwyo gyda biliau tanwydd.
Wrth siarad yn Sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod eisiau gwneud mwy o bensiynwyr yn gymwys ar gyfer y taliadau.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan mewn ymateb i'r sylwadau: "Mae'n fy nghyffroi bod y Prif Weinidog wedi gwrando ar y pryderon a fynegedais iddo ac y bydd yn ailfeddwl am ba un a ddylai fod yn gymwys ar gyfer taliadau tanwydd y gaeaf."
Inline Tweet: https://twitter.com/PrifWeinidog/status/1925191413899108727
Ychwanegodd Syr Keir ei fod yn deall y pwysau ariannol ar bensiynwyr.
"Dwi'n cydnabod fod pobl yn parhau i deimlo pwysau'r argyfwng costau byw, gan gynnwys pensiynwyr. Wrth i'r economi wella, rydym ni eisiau sicrhau fod pobl yn gweld y gwelliannau hyn yn eu bywyd bob dydd wrth i'w bywydau fynd yn eu blaen," meddai.
"Dyna pam yr ydym ni eisiau sicrhau wrth i ni symud ymlaen fod mwy o bensiwynwyr yn gymwys ar gyfer y taliadau tanwydd gaeaf."
Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch i'r Prif Weinidog a oedd yn ystyried gwneud tro pedol ar y cynlluniau, gan ei gyhuddo o beidio â rhoi "ateb cadarn".
Atebodd Syr Keir drwy ddweud fod y llywodraeth yn edrych ar wneud newidiadau i'r polisi, gan gynnwys y trothwy ar gyfer taliadau.