Carcharu lleidr 'llwfr' am ddwyn o dŷ dynes 82 oed ar Ynys Môn
Mae lleidr a wnaeth dorri i mewn i dŷ dynes 82 oed ar Ynys Môn a dwyn lluniau o’i diweddar ŵr a'i mab a fu farw'n 12 oed wedi cael dedfryd o garchar.
Roedd Peter Jason Lee, 50 oed, wedi rhwygo ffenest o'i ffram i gael mynediad i dŷ’r wraig weddw yn ardal Brynteg, yn ôl tystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon.
Gyda dynes 27 oed, Bille Jo Kane, yn ei gynorthwyo, fe wnaeth Lee orchymyn y bensiynwraig i roi ei harian iddo, gan hefyd chwistrellu sylwedd 'bleach' o gwmpas y tŷ.
Fe wnaeth y ddynes 82 oed ddioddef anaf i’w bys yn ystod y digwyddiad.
Cafodd £100 mewn arian parod ei ddwyn, yn ogystal â lluniau o deulu'r ddynes.
Yn dilyn y lladrad, fe wnaeth Lee ffoi i'r Iwerddon.
Yn yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, fe wnaeth Lee bledio’n euog i fyrgleriaeth.
Cafodd ddedfryd o 42 mis o garchar.
Fis Chwefror, cafodd Kane ei charcharu am ddwy flynedd a chwe mis am ei rhan yn y lladrad.
Cafodd ei chyn bartner, Ieuan Parry, hefyd ddedfryd o 16 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis, am ei chynorthwyo wrth gladdu'r car gafodd ei ddefnyddio i gyflawni'r drosedd.
'Llwfr'
Wrth ddedfrydu Lee, dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth y diffynnydd: “Roeddech chi’n targedu’r dioddefwr.”
Roedd Lee wedi bod yn yfed a chymryd cyffuriau ar ddiwrnod y lladrad, ac roedd ganddo gywilydd o'r hyn yr oedd wedi’i wneud, meddai ei gyfreithiwr.
Wrth roi tystiolaeth yn ystod yr achos, fe wnaeth y bensiynwraig ddisgrifio’r hyn a ddigwyddodd iddi hi fel peth “llwfr”.
Dywedodd y barnwr ei bod wedi bod yn “eithriadol a chryf”.
Cafodd apêl gan yr heddlu am wybodaeth am leoliad Lee ei ddarlledu ar raglen BBC Crimewatch cyn iddo gael ei ddal.
Wrth ymateb i’r ddedfryd, dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Richard Griffith: “Mae dedfryd Lee yn ddiweddglo ar ymchwiliad rhagorol sydd wedi dod â’r ddau ddiffynnydd gerbron y llys am drosedd ofnadwy a wnaeth dargedu menyw oedrannus, oedd yn agored i niwed, yn ei chartref ei hun.
“Fe wnaeth Lee a Kane ddwyn eitemau o werth sentimental uchel iawn i’r dioddefwr, ac yn anffodus ni chawsant eu hadfer erioed.
“Ni ellir chwaith bwysleisio rôl Kane yn yr hyn ddigwyddodd.
"Er na fydd unrhyw ddedfryd yn adlewyrchu’r trawma parhaol a brofodd y dioddefwr, rwy’n canmol ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad.”