Angen gweithredu er mwyn atal prifysgolion Cymru ‘rhag syrthio drosodd’
Mae prif weithredwr corff newydd sydd wedi ei sefydlu er mwyn goruchwylio addysg ar ôl 16 oed wedi dweud bod angen gweithredu er mwyn atal prifysgolion Cymru “rhag syrthio drosodd”.
Dywedodd Simon Pirotte, prif weithredwr Medr a gafodd ei sefydlu ym mis Awst yn lle HEFCW nad oedd yr un brifysgol mewn peryg “yn y tymor byr”.
Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau'r Senedd dywedodd fod yna “heriau tymor canolig i hirdymor”.
Roedd yn ymateb i'r Aelod o Senedd Cymru, Cefin Campbell, a ofynnodd a oedd prifysgolion yn wynebu "meltdown".
“Nid yw hyn yn hawdd - y rheswm pam eu bod nhw’n cymryd y camau maen nhw’n eu gwneud nawr yw atal y syrthio drosodd yna ymhellach ymlaen yn y dyfodol,” meddai Simon Pirotte.
Dywedodd fod prifysgolion yn wynebu diffyg gweithredol (operating deficit) o £61m yn 2023/24 o'i gymharu â £21m oedd dros ben (surplus) yn 2022/23.
Dywedodd wrth y pwyllgor: “Nid yw’r diffyg hwn o £61m yn cyfrif am y costau ailstrwythuro.
“Os ydych chi’n ychwanegu hynny mae’n debyg eich bod yn sôn am ddiffyg o £77m.”
‘Ledled y DU’
Mae nifer o brifysgolion amlycaf Cymru wedi cyhoeddi toriadau yn ddiweddar, ond bydd llai o golli swyddi nag yr oedd undebau addysg uwch wedi ei ofni.
Dywedodd Prifysgol Bangor yr wythnos diwethaf eu bod nhw bellach yn ystyried torri tua 78 o swyddi amser llawn.
Mae nifer y swyddi i'w torri ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd wedi'i leihau, i 138.
Wrth siarad â Phwyllgor Addysg y Senedd dywedodd Simon Pirotte fod yna “heriau anferth” yn wynebu y sector addysg ôl-16 gyfan.
“Mae’n gyfnod heriol dros ben i sefydliadau ar draws y sector,” meddai.
“Addysg Bellach, ysgolion awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, darparwyr prentisiaethau, darparwyr cymunedol i oedolion - maen nhw i gyd yn wynebu pwysau ariannol.”
Ond dywedodd nad oedd y cyd-destun hwnnw yn unigryw i Gymru.
“Mae bron i 100 o sefydliadau ledled y DU wedi cyhoeddi mesurau ailstrwythuro,” meddai.