Cyhuddo aelod o fand Kneecap o drosedd terfysgaeth
Mae un o aelodau band Kneecap wedi cael ei gyhuddo o drosedd terfysgaeth yn ôl Heddlu'r Met.
Dywedodd yr heddlu fod Liam O'Hanna, sydd yn perfformio o dan yr enw Mo Chara, wedi cael ei gyhuddo o arddangos baner sydd yn datgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig yn Llundain ym mis Tachwedd y llynedd.
Cafodd Mr O'Hanna ei gyhuddo wedi ymchwiliad gan yr heddlu.
Bydd y dyn 27 oed o Belfast yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster ar 18 Mehefin.
Cafodd ei gyhuddo o arddangos y faner yn yr O2 yng ngogledd Llundain ar 21 Tachwedd y llynedd.
Mae Hamas ac Hezbollah wedi eu gwahardd yn y DU ac mae eu cefnogi nhw'n gyhoeddus yn anghyfreithlon.
Dywedodd Heddlu'r Met bod y faner wedi ei harddangos "mewn modd neu o dan amgylchiadau o’r fath fel bod amheuaeth resymol ei fod yn gefnogwr i sefydliad sydd wedi ei wahardd."
Ychwanegodd y llu bod swyddogion gwrthderfysgaeth wedi dod yn ymwybodol o'r fideo ar 22 Ebrill a bod ymchwiliad wedi ei lansio yn sgil hynny.