Angen i Gymru fynd drwy gemau rhagbrofol i gyrraedd Euro 2028
Mae'n debygol mai Stadiwm Principality Cymru fydd yn cynnal gêm agoriadol Euro 2028 - ond does dim sicrwydd eto y bydd Cymru yn un o'r timoedd fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Mae Uefa wedi cadarnhau y bydd angen i Gymru fynd drwy gemau rhagbrofol i gyrraedd Euro 2028.
Bydd Euro 2028 yn cael ei chynnal yn y DU ac Iwerddon, ond mae Uefa wedi dweud y bydd yn rhaid i Gymru, Lloegr, Yr Alban, a Gweriniaeth Iwerddon gymhwyso trwy'r rowndiau rhagbrofol er mwyn chwarae yn y bencampwriaeth.
Ni fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei hystyried fel un o'r gwledydd a fydd yn cynnal Euro 2028, wedi i gynlluniau i ail-adeiladu stadiwm Parc Casement gael eu hatal.
Mae disgwyl i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd gynnal seremoni agoriadol Euro 2028, yn ogystal â chwe gêm.
Fe fydd naw lleoliad ar draws y DU ac Iwerddon yn cynnal y bencampwriaeth 24 tîm.
Yn wahanol i Euros yn y gorffennol lle mae'r wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth yn cymhwyso yn awtomatig, mae Uefa wedi dweud eu bod nhw wedi gorfod addasu'r rheolau ar gyfer Euro 2028 gan ei bod yn cael ei chynnal ar draws pedair gwlad.
Yn hytrach, fe fydd 20 tîm yn mynd ymlaen i gystadlu yn y bencampwriaeth, sef 12 enillydd grŵp a'r wyth tîm gorau sy'n gorffen yn ail.
Fe fydd dau o'r pedwar safle sy'n weddill yn cael eu rhoi i ddwy o'r pedair cenedl sy'n cynnal y bencampwriaeth sydd heb gymhwyso yn awtomatig.
Bydd y ddau safle olaf yn cael eu penderfynu drwy gemau ail-gyfle.
Pe bai Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn cymhwyso naill ai fel enillydd grŵp neu yn ail, yna fe fydd y pedwar safle yn weddill yn cael eu penderfynu drwy gemau ail-gyfle.