Newyddion S4C

Y ffyrdd cyntaf yng ngogledd Cymru yn newid o 20 i 30mya

Ken Skates 20mya

Dwy ffordd yn Wrecsam yw'r cyntaf yng ngogledd Cymru i ddychwelyd o 20mya i 30mya ar ôl newid yn y terfyn cyflymder diofyn yn 2023.

Mae'r B5605 Ffordd Wrecsam/Stryd Fawr, yn Nhre Ioan a'r A525 Ffordd Bryn-y-Grog wedi dychwelyd i 30mya ddydd Mercher yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd y newid i 20mya wedi ei feirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig ac roedd dros 460,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ddod â’r cyfyngiadau cyflymder newydd i ben.

Mae cynghorau ar draws Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn edrych ar dros 250 o ffyrdd a allai newid yn ôl o 20mya i 30mya.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ei fod yn “falch” o weld y newid yn Wrecsam.

"Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau anafiadau - ac rydym yn gwybod bod tystiolaeth eang ei fod yn gwneud hynny,” meddai.

“Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â chael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, gan adeiladu o'r consensws eang bod 20mya yn iawn lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae.

"Rwy'n falch bod Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gadw cydbwysedd ac wedi dechrau gwneud y newidiadau yn dilyn adborth gan bobl leol. 

“Mae ein canllawiau wedi'u diweddaru yn caniatáu i awdurdodau lleol ystyried gwneud newidiadau lle mae'n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny."

Y ddwy ffordd yw'r gyntaf o 52 rhan o'r briffordd lle bydd y terfyn cyflymder yn cael ei newid i 30mya gan Gyngor Sir Wrecsam.

Daw yn dilyn cyhoeddi canllawiau diwygiedig gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod 20mya yn cael ei dargedu ar “y ffyrdd cywir,” yn ôl y llywodraeth.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd Cyngor Wrecsam eu bod nhw "wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y newidiadau angenrheidiol i derfynau cyflymder yn dilyn ein proses ymgynghori".

"Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cyflwyno newidiadau i gyflymder o 20mya i 30mya yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru."

Llun: Ken Skates a Chris Bithell

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.