'Wastad stôl yn y bar i ti' : Seren Cheers, yr actor George Wendt wedi marw
Mae George Wendt, oedd yn serennu fel y cymeriad Norm Peterson yn y gyfres gomedi poblogaidd Cheers wedi marw yn 76 oed.
Fe fuodd yr actor a’r comedïwr farw yn ei gartref fore Mawrth.
Roedd Cheers yn gyfres oedd ar y teledu rhwng 1982 ac 1993 ac fe wnaeth cymeriad Wendt ymddangos ymhob un bennod o Cheers.
Fe gafodd Wendt chwe enwebiad Emmy am actor cynorthwyol yn sgil y gyfres.
Fe ymddangosodd yr actor mewn nifer o ffilmiau hefyd gan gynnwys Forever Young, Dreamscape a Gung Ho.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad: “Roedd George yn ddyn oedd wedi dotio ar ei deulu, yn ffrind oedd yn cael ei garu ac yn gyfaill mynwesol i bawb oedd yn ddigon lwcus i’w adnabod.”
“Fe fyddwn ni yn gweld ei eisiau am byth”.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol mae’r dafarn wnaeth ysbrydoli’r gyfres Cheers wedi dweud fod George Wendt yn “fwy nag actor”.
Dywedodd Cheers Boston: “Roedd yn symbol o gysur, chwerthin a’r teimlad cyfarwydd yna o gerdded mewn i le lle mae pawb yn gwybod eich enw.”
“I George: diolch am y chwerthiniadau, yr atgofion, a’r etifeddiaeth ti wedi gadael ar dy ôl. Fe fydd yna wastad stôl yn y bar i ti.”