Ymchwiliad i hacwyr manwerthu yn y DU yn canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n siarad Saesneg
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ymosodiadau seibr ar fanwerthwyr yn y DU yn canolbwyntio ar grŵp enwog o droseddwyr seibr sy’n siarad Saesneg, a rhai ohonynt yn bobl ifanc yn ôl y BBC.
Ers wythnosau, mae llawer wedi dyfalu fod yr ymosodiadau seibr ar M&S, Co-op, Harrods a rhai o fanwerthwyr yn yr Unol Daleithiau yn waith cymuned hacio o’r enw Scattered Spider.
Mae M&S wedi oedi archebion ar-lein o ganlyniad i’r ymosodiad, tra bod taliadau ac archebion clicio a chasglu hefyd wedi cael eu heffeithio.
Yn ôl y cwmni fe fydd archebion ar-lein yn cael eu heffeithio tan fis Gorffennaf.
Cafodd data personol cwsmeriaid, a allai fod wedi cynnwys enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfeiriadau post a dyddiadau geni, eu cymryd gan hacwyr yn yr ymosodiad.
Yr amcangyfrif yw bod M&S mynd i golli tua £300 miliwn o elw eleni o achos yr ymosodiad seibr.
Nid yw M&S wedi datgelu cost ariannol y digwyddiad eto, ond y gred yw i’r cwmni golli degau o filiynau o bunnoedd mewn gwerthiannau.
"Rydym yn edrych ar y grŵp sy'n cael ei adnabod yn gyhoeddus fel Scattered Spider," meddai Paul Foster, pennaeth uned seiberdroseddu genedlaethol yr NCA, mewn rhaglen ddogfen newydd gan y BBC.
"Ond mae gennym ystod o ddamcaniaethau gwahanol a byddwn yn dilyn y dystiolaeth i gyrraedd y troseddwyr," meddai.
"Yng ngoleuni'r holl ddifrod rydyn ni'n ei weld, dal pwy bynnag sydd y tu ôl i'r ymosodiadau hyn yw ein blaenoriaeth gyntaf."