Newyddion S4C

'Pryder' am gynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru i ganolbwyntio llai ar achosion llygredd 'isel'

Poteli plastig / llygredd

Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi dweud eu bod yn “pryderu’n fawr” am gynllun Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn golygu eu bod yn ymateb i lai o ddigwyddiadau sydd yn ymwneud â llygredd ‘categori isel.’

Yn ôl Pwyllgor yr Amgylchedd y Senedd bydd y cynlluniau newydd i ganolbwyntio ar “ddigwyddiadau mwy” i'w wneud â llygredd yn digwydd yn sgil “blynyddoedd o danfuddsoddi” yn y sefydliad.

Ond fe fyddai’r cynllun yn “gadael Cymru yn agored i niwed amgylcheddol” yn y pen draw, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Llŷr Gruffydd AS.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perygl o anwybyddu digwyddiadau llygredd sydd, o bosibl, yn cael eu hystyried yn llai niweidiol ond sy’n dal i erydu iechyd ein hecosystemau a'n cymunedau,” ychwanegodd.

Yn eu hadroddiad ddydd Mercher, mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno cynlluniau ar ddyfodol canolfannau Coed y Brenin, Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian “ar fyrder” – gan ddweud na ddylai’r canolfannau wedi cael eu cau heb gynlluniau clir yn eu lle. 

Maen nhw hefyd yn dweud bod yna “fethiannau llywodraethu difrifol” yn y sefydliad. Mae hynny wedi arwain at gamgymeriad gwerth £19 miliwn. Cafodd yr arian ei dalu gan ddefnyddio arian trethdalwyr.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru, Ceri Davies, eu bod yn "canolbwyntio ar adeiladu sefydliad mwy ystwyth a phendant, sy’n gwbl barod i arwain ar yr heriau amgylcheddol mawr."

Heriau

Mae’r adroddiad yn amlinellu pryderon y pwyllgor o ran yr heriau ariannol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ei wynebu.

Maen nhw’n dweud nad yw'r corff yn cael ei ariannu'n ddigonol i wneud gwaith gorfodi ym maes troseddau amgylcheddol yng Nghymru. 

Yn rhan o hynny, maen nhw’n nodi pryderon CNC o ran ei gallu i roi dirwyon a sancsiynau digon sylweddol a fyddai’n atal pobl rhag llygru’r amgylchedd. 

Mae’r pwyllgor bellach yn galw ar y corff i egluro pa ddirwyon sy’n rhy isel iddo allu cyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio amgylcheddol yn effeithiol.

Galw am weithredu 'ar fyrder'

Cafodd canolfannau Coed y Brenin, Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian eu cau ym mis Mawrth eleni fel rhan o gynlluniau’r corff i dorri costau. 

Maen nhw wedi dweud y bydd y canolfannau yn ailagor yn y dyfodol. 

Ond does dim “amserlen gredadwy” o ran eu hailagor ar gael hyd yma, medd Mr Gruffydd AS. 

Mae’r Pwyllgor yn galw am gynlluniau o’r fath ar frys. 

Dywedodd y Pwyllgor eu bod nhw hefyd yn bryderus fod trethdalwyr wedi gorfod talu am gamgymeriadau’r corff yn y gorffennol. 

Ym mis Hydref 2024, daeth i’r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi talu bil treth gwerth £19 miliwn a oedd yn ddyledus gan Gyfoeth Naturiol Cymru i Gyllid a Thollau EF. 

Roedd y mater hwn yn gysylltiedig â chamgymeriadau a wnaed o ran categoreiddio statws treth gweithwyr, meddai’r adroddiad. 

Mae’r Pwyllgor bellach yn galw ar CNC a Llywodraeth Cymru am “sicrwydd” bod prosesau goruchwylio gwell ar waith. 

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad a byddwn yn ystyried eu hargymhellion yn ofalus."

'Her sylweddol'

Wrth ymateb ar ran y corff, dywedodd Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym ni’n cymryd ein cyfrifoldebau o ran gwarchod yr amgylchedd o ddifrif.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o newid a her sylweddol i’n sefydliad, wrth i ni fyw o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni. 

“Er gwaethaf hyn, mae ein cydweithwyr wedi aros yn gadarn — gan gamu i’r adwy dro ar ôl tro i gyflawni dros bobl, lleoedd a bywyd gwyllt Cymru. 

"Ein nod yw sicrhau bod pob punt o gyllid cyhoeddus a dderbyniwn yn darparu'r gwerth mwyaf - gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, mynd i'r afael â risgiau amgylcheddol, a gwneud penderfyniadau sy'n sbarduno'r effaith gadarnhaol fwyaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chynyddu ein heffaith lle mae ei hangen fwyaf."

Fe ychwanegodd Mr Davies: "Byddwn bob amser yn blaenoriaethu digwyddiadau sy’n peri’r risg uchaf i bobl a natur, gan roi pobl ar lawr gwlad os oes angen, a sicrhau ymateb sy’n seiliedig ar risg, wedi’i arwain gan wybodaeth, ac wedi’i yrru gan ddata."

Wrth gyfeirio at ganolfannau ymwelwyr, dywedodd: “Dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio’n gadarn ar y broses o ddod o hyd i bartneriaid, grwpiau cymunedol a busnesau fel ei gilydd, i gofrestru diddordeb mewn darparu gwasanaethau yn y canolfannau ymwelwyr. 

“Rydym wedi sicrhau consesiwn diodydd a bwyd oer sydd bellach yn gweithredu ym Mwlch Nant yr Arian, rheolaeth safle llawn amser ar gyfer maes parcio'r traeth yn Ynyslas ac wedi hysbysebu cyfleoedd ar gyfer consesiwn uned ddiodydd a hufen iâ symudol yn Ynyslas, a chonsesiwn diodydd a bwyd oer yng Nghoed y Brenin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.