Cymdeithas dai Adra yn apelio penderfyniad i wrthod adeiladu tai ym Motwnnog
Mae Cymdeithas dai Adra wedi dweud eu bod wedi apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i wrthod adeiladu tai newydd ym Motwnnog.
Cafodd y cais i adeiladu 18 o dai fforddiadwy ei wrthod yn derfynol ym mis Hydref y llynedd, ar ôl cyfnod o gnoi-cil ar benderfyniad gwreiddiol y pwyllgor cynllunio ym mis Medi i'w wrthod.
Dywedodd llefarydd Adra wrth Newyddion S4C: “Gallwn gadarnhau ein bod wedi apelio, ac yn disgwyl dyfarniad.”
Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi awgrymu wrth aelodau'r pwyllgor cynllunio y dylai'r cais gael ei ganiatáu.
Roedden nhw yn dadlau bod cyfrifoldeb statudol arnyn nhw i wneud hynny, gan fod yr egwyddor am yr angen wedi ei sefydlu'n flaenorol.
Yn ôl y swyddogion doedd y cais ddim yn cael ei ystyried fel gor-ddatblygiad am fod y safle wedi ei glustnodi ar gyfer 21 o dai.
Roedd y cais cynllunio gafodd ei gyflwyno ar gyfer llai na hynny.
Mae'r cais wedi bod yn un dadleuol ac yn ystod cyfarfodydd mae dadlau wedi bod ynglŷn â diffiniad o gymuned leol - gan fod 'lleol' yn berthnasol i Wynedd gyfan wrth ystyried y galw am dai.
Yn ôl gwrthwynebwyr y cais dylid diffinio lleol fel ardal oedd yn berthnasol i Fotwnnog yn unig.
Mae'r rhai sydd yn ei erbyn hefyd yn dweud bod y cais wedi achosi "drwgdeimlad a phoeni" ym Motwnnog.
Yn ôl Cyngor Cymuned Botwnnog doedd dim galw am y tai yn lleol a byddai'n effeithio ar "sefydlogrwydd y gymuned."
Ond roedd cynghorwyr eraill o blaid adeiladu'r tai gan ddadlau bod y ffeithiau'n dangos bod pobl yn aros am dai yn lleol ac yn cydymffurfio'n llwyr gyda'r Cynllun Datblygu Unedol.