
Myfyriwr a gollodd ei breichiau a’i choesau i sepsis yn galw ar bobl i gael brechlyn
Mae myfyriwr meddygol o Brifysgol Caerdydd a gollodd ei breichiau a’i choesau oherwydd sepsis wedi galw ar bobl i gael brechlyn llid yr ymennydd.
Cafodd Lily McGarry, 23, ei rhuthro i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd gyda symptomau tebyg i ffliw ym mis Ionawr cyn i'w chyflwr waethygu'n gyflym a chafodd sioc septig.
Cafodd ddiagnosis o septisemia meningococcal, math o wenwyn yn y gwaed sy’n cael ei achosi gan yr un math o facteria sy’n achosi’r math mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacteriol.
Fe wnaeth Lily, sydd o Jersey yn wreiddiol ond yn astudio yng Nghaerdydd ar yr adeg, oroesi dau ataliad ar y galon.
Treuliodd bythefnos mewn coma a mwy na 100 diwrnod yn yr uned gofal dwys.
Achosodd yr haint broblemau difrifol gyda llif y gwaed yn ei chorff ac, o ganlyniad, bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth i dorri ei phedwar aelod (limb) i ffwrdd yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Annog
Dywedodd ei thad, Stuart McGarry, fod Lily eisiau i bobl gael brechlyn meningitis i’w hamddiffyn rhag septisemia meningococcal.
"Mae (Lily) eisiau rhannu’r neges gyda phawb. Mae cyfradd brechu meningitis plant ar ôl COVID wedi gostwng yn sylweddol.” meddai.
"Yn amlwg, mae Lily yn profi nad yw'n gweithio i 100% o'r bobl 100% o'r amser.
"Ond mae'r rhaglen frechu llid yr ymennydd yn y DU wedi bod yn hynod lwyddiannus... nid oedd rhai o'r staff yn ysbyty Caerdydd wedi gweld achos fel Lily ers 10 mlynedd.
“Felly mae wedi profi ei fod yn effeithiol. Mae'n gweithio.” meddai.

Roedd Mr McGarry yn Jersey pan dderbyniodd yr alwad o'r ysbyty i ddweud bod ei ferch yn sâl.
"Dyma'r alwad nad yw unrhyw dad ei heisiau mewn gwirionedd," meddai.
"Dywedon nhw y dylwn i ddod draw i Gaerdydd, bod Lily yn wirioneddol sâl, a dywedais i y byddaf yn ‘pacio bag ac yn hedfan yfory' a dywedodd y nyrs 'na, dylech chi fod yma nawr'.”
"Roedd ei mam yn Awstralia pan dderbyniodd yr alwad - felly roedd wedi cael taith uffernol i ddod yn ôl yr holl ffordd o Awstralia i Gaerdydd."

Annibyniaeth
Mae cyfrif GoFundMe wedi ei sefydlu er mwyn codi arian ar gyfer cyfarpar prosthetig i Lily, sydd wedi codi £370,000 hyd at nos Fawrth.
Dywedodd Mr McGarry: "Mae pobl wedi bod yn hael iawn…a bydd hynny'n rhoi'r dewis hwnnw i Lily yn y dyfodol.
"Ar hyn o bryd, fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio mwy ar y presennol - y camau bach... cael ei chlwyfau i wella.
"Y prostheteg - mae hi'n ceisio nawr, gyda rhai bach ar ei breichiau, dim ond rhoi ychydig mwy o annibyniaeth iddi, sy'n rhywbeth y mae hi'n hiraethu amdano.
"Hi yw'r person gorau dw i'n ei adnabod. Hi yw fy merch."
Lluniau: SkyNews