Newyddion S4C

'Straen': Mwy na 170,000 o barseli bwyd yn cael eu rhoi yng Nghymru

S4C

Mae mwy na 170,000 o barseli bwyd wedi cael eu darparu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – gyda’r mwyafrif ohonynt yn mynd i deuluoedd gyda phlant.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf elusen Trussell Trust, cafodd dros 106,000 o barseli bwyd eu darparu ar frys i deuluoedd â phlant rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025.

Mae hynny’n gynnydd o 19% o’i gymharu â’r nifer o barseli bwyd gafodd eu rhoi pum mlynedd yn ôl, medd yr elusen.

Ers 2019/20, mae cynnydd o 8% hefyd wedi bod yn nifer y parseli sydd yn cael eu darparu i blant dan bump oed.

Dywedodd Andrew Butcher o Fanc Bwyd Taf Elái ym Mhont-y-clun bod nifer “sylweddol a chynyddol” o bobl wedi gorfod troi at ddefnyddio banciau bwyd am gymorth wrth iddyn nhw wynebu anawsterau o ran gallu fforddio’r hanfodion.

Mae mwy na 420,000 o bobl yn wynebu tlodi bwyd a chaledi yng Nghymru, yn ôl gwaith ymchwil Trussell. 

Mae Mr Butcher yn dweud bod y galw ar eu gwasanaeth mor uchel ei fod yn rhoi “straen sylweddol" ar eu hadnoddau.

“Er ein bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i eirioli dros newid systemig i ddileu'r angen am fanciau bwyd yn gyfan gwbl, mae cefnogaeth gymunedol yn parhau i fod yn hanfodol."

'Agoriad llygad'

Mae nifer y parseli bwyd sydd yn cael eu darparu yng Nghymru bellach yn cyfateb i un parsel bob tair munud. 

Dywedodd Jo Harry, Arweinydd Rhwydwaith Trussell yng Nghymru: “Mae cenhedlaeth gyfan bellach wedi tyfu i fyny mewn gwlad lle mae lefelau uchel parhaus o angen banciau bwyd yn teimlo fel sefyllfa arferol a dylai hyn fod yn agoriad llygad i'r llywodraeth a’u hatgoffa o'u cyfrifoldebau i bobl y wlad hon."

Gyda llai na blwyddyn cyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru, mae elusen Trussell yn galw ar y llywodraeth nesaf i “fynd ymhellach” yn ei phartneriaeth gyda llywodraeth y DU i sicrhau bod “pawb yn gallu fforddio'r hanfodion.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb. 

'Hanfodion'

Mae'r elusen hefyd yn rhybuddio y gallai cynigion Llywodraeth y DU i dorri cymorth hanfodol i bobl anabl a sâl orfodi hyd yn oed mwy o bobl i droi at fanciau bwyd. 

Mae pobl anabl eisoes wedi’u gorgynrychioli mewn banciau bwyd, medd yr elusen. 

Roedd tri o bob pedwar o bobl a gyfeiriwyd at fanc bwyd yng nghymuned Trussell wedi dweud eu bod nhw neu aelod o'u haelwyd yn anabl, gan eu rhoi yn y “perygl mwyaf o dlodi bwyd a chaledi.”

Maen nhw’n annog Llywodraeth y DU i wneud newidiadau i’r system Credyd Cynhwysol yn ogystal, a hynny fel y gall pobl “fforddio'r hanfodion mewn bywyd.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw'n "benderfynol o newid bywydau pobl am y gorau" drwy fynd i'r afael a thlodi.

Ychwanegodd eu bod yn "diwygio'r system les" er mwyn sicrhau y gall pobl cael gafael ar swyddi "da, diogel."

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn gwneud newidiadau i Gredyd Cynhwysol fydd yn rhoi "hwb" o £420 i dros filiwn o aelwydydd yn ogystal â lansio 750 clybiau brecwast ar hyd y DU. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.