Newyddion S4C

Guto Bebb: Y Ceidwadwyr 'yn wynebu difancoll' o achos pleidlais Brexit

Newyddion S4C

Guto Bebb: Y Ceidwadwyr 'yn wynebu difancoll' o achos pleidlais Brexit

Mae'r Ceidwadwyr yn wynebu "difancoll" o ganlyniad i refferendwm Brexit, yn ôl y cyn-Weinidog Ceidwadol Guto Bebb.

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mr Bebb, a ymddiswyddodd o lywodraeth Theresa May oherwydd Brexit, bod y refferendwm, a'r bleidlais i adael yr UE, yn golygu "diwedd ar allu'r blaid Geidwadol i lywodraethu".

Mewn cyfweliad ar y diwrnod y cyhoeddodd Syr Keir Starmer gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Mr Bebb:

“Dwi’n cofio i mi ddweud yn 2019 y byddai Brexit yn sicrhau un fuddugoliaeth i’r blaid Gedwadol – wrth gwrs fe gafodd Boris Johnson y fuddugoliaeth honno.

"Dwi’n credu bydd Brexit yn troi allan i fod yn ddiwedd ar y Blaid Geidwadol, yn ddifancoll i’r Blaid Geidwadol.

"Yr hyn maen nhw wedi ei wneud ydy rhyddhau syniadaeth wleidyddol sydd ddim yn mynd i gael ei ateb gan y Blaid Geidwadol."

Ychwanegodd Mr Bebb: "Dwi’n teimlo'n gryf iawn bod penderfyniad Cameron i gael refferendwm ar ein dyfodol ni yn yr Undeb Ewropeaidd nid yn unig wedi selio diwedd perthynas Prydain gyda’r Undeb Ewropeaidd fel aelod, ond hefyd wedi selio diwedd ar y blaid Geidwadol fel plaid sydd yn gallu llywodraethu ym Mhrydain."

'Anghytuno'n sylfaenol'

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar AS fod hawl gan Guto Bebb i'w farn, ond ei fod yn "anghytuno yn sylfaenol gyda fe."

"Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn taro bargen gyda gwledydd drwy'r byd, a diolch i'r llywodraeth Geidwadol ddiwethaf yn San Steffan, yn masnachu gyda'r UE heb dollau.

"Mae pobl yng Nghymru am weld partneriaeth economaidd gyda'n partneriaid yn Ewrop ac am i n fod yn rhan o Brydain ryngwladol, ddyfeisgar.

"Mae'n rhaid i ni barhau i fanteisio ar y rhyddid mae Brexit wedi scrhau i ni, a pheidio derbyn unrhyw beth sydd yn rhoi'r rhyddid yna yn ôl, drwy'r drws cefn, i'r Undeb Ewropeaidd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.