Newyddion S4C

Cyn AS yn pledio'n ddieuog i aflonyddu cyn bartner

Katie Wallis

Mae cyn Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o aflonyddu cyn bartner.

Fe wnaeth Katie Wallis, oedd yn cael ei hadnabod gynt fel Jamie, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun wedi ei chyhuddo o "aflonyddu heb drais" yn erbyn Rebecca Wallis rhwng Chwefror a Mawrth eleni.

Roedd y cyn AS Ceidwadol o Dre-biwt yng Nghaerdydd yn cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr yn San Steffan rhwng 2019 a 2024.

Mae Katie Wallis yn wynebu cyhuddiadau o yrru heibio tŷ Rebecca Wallis, anfon negeseuon testun iddi, ei ffonio a gadael negeseuon llais, wedi i Ms Wallis ddechrau perthynas newydd.

Siaradodd Wallis i nodi ple i'r llys a chadarnhau ei henw, oedran a chyfeiriad.

Cafodd y gwrandawiad ei restru fel achos llys, ond roedd yr amddiffyniad wedi methu â darparu dogfennau i’r erlyniad o fewn yr amserlen priodol, gan orfodi’r barnwr i ohirio’r achos.

Bydd yr achos yn cychwyn ar 17 Mehefin.

'Aflonyddgar'

Ar ran yr erlyniad, fe wnaeth Simone Walsh amlinellu'r achos.

"Roedd y diffynnydd a'r dioddefwr mewn perthynas am gyfnod o tua 15 mlynedd. Roedd y ddau wedi gwahanu yn 2020 ac roedd yr ysgariad yn swyddogol erbyn 2024," meddai.

"Ar ôl i'r dioddefwr roi gwybod i'r diffynnydd o'i pherthynas newydd roedd ymddygiad y diffynnydd wedi troi'n aflonyddgar ei natur."

Dywedodd Narita Bahra KC, cynrychiolydd y diffynnydd nad oedd gweithredoedd Katie Wallis yn "faleisus ar ei rhan" a'i bod wedi bod trwy "gyfnod pwysig yn y broses newid rhywedd."

Tra oedd Katie Wallis yn y doc, fe wnaeth ymddangos fel ei bod wedi disgyn, a dywedodd Ms Bahra bod yn cyn AS yn glawstroffobig.

Ychwanegodd bod ganddi bryderon am ffitrwydd Wallis a bod ganddi "broblemau iechyd meddwl arwyddocaol" ac yn debygol iawn o angen seibiannau yn ystod yr achos.

Cyn i’r achos gychwyn, dywedodd Ms Bahra fod Wallis wedi “cymryd lloches” mewn siop Tesco gerllaw ar ôl gweld gohebwyr.

Cafodd cyhuddiad o “stelcian heb ofn, braw a gofid” ei ollwng ar ôl i’r erlyniad ddweud na fyddent yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth.

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.