Rhys Meirion wedi cael llawdriniaeth i dynnu tiwmor o'r coluddyn
Mae'r canwr opera a'r cyflwynydd poblogaidd Rhys Meirion wedi rhannu neges ar gyfryngau cymdeithasol i ddweud ei fod wedi derbyn llawdriniaeth lwyddiannus i dynnu tiwmor o'i goluddyn.
Yn llais cyfarwydd ar lwyfannau, y radio ac ar y teledu, dywedodd y canwr 59 oed o Bwllglas ger Rhuthun ei fod "angen mendio" ac fe fydd "yn ôl ar fy nhraed mewn dim!"
Ychwanegodd ei fod wedi bod yn lwcus o ddod o hyd i'r tiwmor yn gynnar, a hynny o ganlyniad i waith Sgrinio Coluddion Cymru.
"Diolch o galon i'r GIG, y llawfeddyg, y doctoriaid a'r nyrses am eu gofal arbennig", meddai.
O fis Hydref y llynedd, ddechreuodd Sgrinio Coluddion Cymru wahodd pobl 50 oed i gael eu sgrinio am ganser y coluddyn am y tro cyntaf.
Mae pobl rhwng 50 a 74 oed ac sydd yn byw yng Nghymru yn cael ei gwahodd i gymryd y prawf sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.