
Digartrefedd pobl ifanc: 'Bod ar ben dy hun heb gymorth ydy’r peth gwaethaf'
Yn ôl dyn 18 oed a oedd yn ddigartref am dros flwyddyn, “bod ar ben dy hun heb gymorth ydy’r peth gwaethaf.”
Bu'n rhaid i Jordan Brown fyw mewn llety dros dro yn Rhyl ar ôl iddo fod yn ddigartref yn 2023.
“‘Dw’i wedi dysgu sut i oroesi ar ben fy hun,” dywedodd.
“Pan oeddwn i angen rhywun, doedd neb yna, felly fe wnes i ddysgu sut i fyw ar ben fy hun.”
Ychwanegodd: “Mae’n anodd gweld pobl eraill yn mynd trwy hynny, achos does dim byd alla’ i ei wneud i’w cefnogi nhw, ond ‘dwi’n gallu rhannu fy mhrofiad i’w helpu nhw i osgoi gorfod byw fel hynny.”
Rhanodd Jordan ei brofiad wrth i fil sy’n “torri tir newydd” gael ei gyflwyno i’r Senedd ddydd Llun.
Mae drafft y bil wedi bod ar y gweill ers sawl blwyddyn. Mae wedi’i greu gan ddefnyddio tystiolaeth pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd, yn ogystal ag elusennau sy’n darparu cefnogaeth i’r digartref.
Bydd y bil yn canolbwyntio ar bwyntiau allweddol, fel ailddiffinio pwy sy’n cael eu hystyried yn ddigartref; pobl ifanc sy’n gadael y system ofal; ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phobl yn gynharach.
‘Fe weles i bopeth’
Tra’n sôn am ei gyfnod mewn llety dros dro, dywedodd Jordan, “Roedd fy llety yn llawn llygod mawr. Roedd e’n afiach.
“Y cwbl oedd gen i oedd microdon a thostiwr. Doedd dim hyd yn oed peiriant golchi.”

Yn aml, roedd Jordan yn gweld pobl yn cyfnewid cyffuriau.
“Fe weles i bopeth,” esboniodd.
“Ddylai neb mor ifanc â hynny orfod byw drwy hynny.”
Mae Jordan yn ddiolchgar iawn i’r gymdeithas dai, Gorwel, am le diogel i fyw.
“‘Dw’i nôl ar fy nhraed nawr.”
‘Dim cymorth o gwbl’
Mae Elliot hefyd wedi derbyn cymorth gan Gorwel. Mae e’n dweud bod dim byd wedi gallu ei baratoi i fod yn ddigartref.

“Doedd yna ddim cymorth o gwbl - ti’n cael dy adael ar ben dy hun ac mae’n rhaid i ti jyst aros,” dywedodd.
Mae e’n credu bod rhaid i gynlluniau’r Llywodraeth atal mwy o bobl rhag dod yn ddigartref:
“Mae’n mynd i fod yn anodd. ‘Dwi’n credu bod rhaid i bawb gadw llygad ar beth sy’n gallu digwydd.”
‘Nid yw’n ddatrysiad i ddigartrefedd’
Dywedodd cyfarwyddwr y sefydliad digartrefedd, Cymorth Cymru, Katie Dalton: “Fe wnaethon ni siarad gyda dros 300 o bobl gyda phrofiad o ddigartrefedd wrth weithio ar y bil yma, ac mae’n fendigedig i weld cymaint o’u barn a’u profiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y bil.
“Ond ni fydd y bil yn ei gyfanrwydd yn datrys digartrefedd.
“Mi fydd rhaid i ni barhau i adeiladau tai cymdeithasol yng Nghymru, sy’n golygu bod rhaid i’r llywodraeth nesaf gael targedau adeiladu cadarn iawn.
“Mae’n angenrheidiol bod cyllid i adeiladu tai cymdeithasol a gwasanaethau cymorth yn cael eu hariannu’n addas i roi’r cymorth i’r rheiny sydd ei angen.”

Bydd rhaid i’r Bil Digartrefedd a Dosbarthiad Tai Cymdeithasol (Cymru) gael ei gymeradwyo gan aelodau’r Senedd cyn iddo ddod yn gyfraith. Mae rhai o’r pwyntiau allweddol ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Newid yn y diffiniad o “wedi eu bygwth gan ddigartrefedd,” gan ymestyn y tymor atal o 56 diwrnod i chwe mis.
- Cynyddu’r nifer o opsiynau llety sy’n gallu cael eu hystyried i helpu.
- Dyletswyddau newydd ar gyfer awdurdodau lleol i gymryd camau rhesymol er mwyn cadarnhau llety ar gyfer rhai pobl ifanc sy’n gadael gofal.
- Dyletswydd newydd i ddarparu cymorth i helpu i gadw llety priodol.
Disgrifiodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, y bil fel “trobwynt” yn sut mae Cymru’n trin digartrefedd, wrth ddweud bydd y ddeddfwriaeth yn helpu i “newid bywydau.”
“Mae pob un person yn haeddu lle diogel i alw’n gartref, ac mae’r diwygiadau yma yn dod â ni’n agosach i greu hyn yn realiti ledled Cymru,” ychwanegodd.
“‘Dwi’n arbennig o falch o beth all hyn olygu i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Trwy uno timoedd tai a gwasanaethau cymdeithasol, gallwn ni sicrhau bod pobl ifanc, sef ein cyfrifoldeb ni, yn derbyn y cymorth maen nhw ei angen.
“Nid dim ond uchelgais ydy rhoi’r diwedd ar ddigartrefedd - mae’n bosib os ydym yn cydweithio cyn iddo droi’n argyfwng. Mae’r bil yma yn rhoi’r offer i ni allu gwneud hynny.”