
Perthynas staff Nant Gwrtheyrn gyda'r bwrdd rheoli'n 'gadarnhaol'
Mae Prif Weithredwr newydd Nant Gwrtheyrn yn dweud bod ganddi hi a staff y sefydliad “hyder llawn” yn y cadeirydd Huw Jones a bwrdd yr ymddiriedolaeth.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar ddatgelu honiadau o ddiwylliant “afiach a gwenwynig” yn y ganolfan ym Mhen Llŷn dros y ddegawd ddiwethaf.
Roedd rhai gweithwyr a chyn weithwyr wedi cyhuddo’r Bwrdd Ymddiriedolwyr o “anwybyddu” pryderon staff, gyda rhai yn galw ar y cadeirydd, Huw Jones, i ymddiswyddo gan honni ei fod yn ymwybodol o’r pryderon ers amser maith.
Mewn ymateb i’r honiadau ar y rhaglen, cafodd llythyr ei ryddhau gan staff y ganolfan yn mynegi cefnogaeth i’r bwrdd, gan ddweud eu bod bellach yn teimlo eu bod yn “gweithio mewn sefydliad sy’n ddiogel ac yn agored ac mae gan staff lais.”
Cafodd y llythyr ei lofnodi gan 32 aelod o staff allan o 36.

Fis Mawrth, cafodd Siwan Tomos ei phenodi yn brif weithredwr ar y sefydliad.
Dywedodd wrth Newyddion S4C fod y berthynas rhwng y gweithlu a’r bwrdd yn un “gadarnhaol”.
“Ni di bod yn gwneud yn siŵr ni’n cefnogi staff achos yn amlwg roedd e’n brofiad anodd i’r staff weld y sylw yna yn y wasg.
“Ond yn bwysicach na hynny, mae’r berthynas rhwng y gweithlu a’r bwrdd. Mae’r berthynas yna wedi bod yn gadarnhaol dros y cyfnod dwi wedi bod yn y Nant yn gweithio.
“Mae’r bwrdd yn weladwy iawn yma yn y Nant. Mae’r berthynas yn un agored, maen nhw yma’n trafod ac mae’r gweithwyr yn eu gweld nhw’ gyson hefyd fel bod 'na gyfle i siarad a thrafod unrhyw faterion sy’n codi.
“Mae gen i hyder llawn yn y bwrdd a’r cadeirydd. A beth sy’n braf yw gallu dweud bod y gweithlu yn teimlo’r un peth. Symud ymlaen yw beth mae pawb yn teimlo sydd yn bwysig i ni.”
‘Curiad calon’
Yn wreiddiol o Landudoch, Sir Benfro, mae Ms Tomos wedi gweithio yn y ganolfan ers dros ddwy flynedd, fel tiwtor ac fel Rheolwr Addysg a Threftadaeth.
Cafodd Nant Gwrtheyrn ei sefydlu ar ddechrau’r 80au fel canolfan dysgu Cymraeg ond erbyn hyn mae’r safle hefyd yn cynnal priodasau a llety gwyliau.
Yn 2024 fe wnaeth Nant Gwrtheyrn dderbyn £520,000 o arian cyhoeddus drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cefnogi y cyrsiau dysgu Cymraeg preswyl.
Mae'r niferoedd o ddysgwyr yn Nant Gwrtheyrn wedi codi'n raddol yn ddiweddar, o 791 yn 2022/23 i 866 yn 2024/25.
Wrth rannu ei gweledigaeth, dywedodd Ms Tomos mai sicrhau'r “cynnydd parhaus” yn niferoedd o ddysgwyr yn y ganolfan oedd y brif flaenoriaeth, wrth barhau i gynnig digwyddiadau yno fel priodasau a chyngherddau.
"Mae'n rhaid sicrhau bod dysgu Cymraeg yn parhau yn rhan ganolog o bopeth ni’n neud yma achos wrth gwrs dyna’r rheswm dros ein bodolaeth ni. Dyna guriad calon y nant," meddai.
“Ni yn rhagweld y bydd 'na gynnydd eto yn niferoedd y dysgwyr, a gyda’r bil addysg sydd di gael ei basio wythnos diwethaf, ni’n rhagweld ein bod ni’n gweithio mwy a mwy gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i ddarparu ar gyfer pob math o ddysgwyr.

“Mae’n golygu bod ‘na ddysgwyr yma bob wythnos o’r flwyddyn, ac eithrio cyfnodau ar gyfer gwyliau. Ond ar y cyfan, dysgwyr sydd yn ganolbwynt i waith y Nant.
“Ond wrth gwrs ma ‘na elfennau masnachol gyda ni, fel y priodasau a’r gigs, a’r caffi, sydd yn bwysig iawn o’r rhan creu amgylchedd y Nant a pan mae dysgwyr yn dod yma, maen nhw’n defnyddio’r caffi, maen nhw’n dod i’r gigs ac mae’r profiad cyflawn yna’n hollbwysig pan ni’n sôn am greu siaradwyr Cymraeg.”
‘Meithrin awyrgylch hapus’
Yn gynharach eleni wrth siarad â chyn weithwyr y ganolfan, fe wnaeth Y Byd ar Bedwar ddatgelu bod trosiant staff yn broblem fawr yno, gyda llawer o bobl yn gadael y sefydliad oherwydd ymddygiad un unigolyn.
Ond mewn arolwg staff fis Ionawr, roedd 92% o weithwyr yn argymell Nant Gwrtheyrn fel lle da i weithio.
Mae rhaglen llesiant, sydd yn cynnwys seibiant i staff gael ymarfer ioga a meddylgarwch, bellach wedi'i chyflwyno mewn ymgais i "drial cadw a meithrin awyrgylch hapus i staff", meddai'r Prif Weithredwr.
"Blaenoriaeth arall yw bod ‘da ni weithlu bodlon, hapus sy’n mwynhau dod i’w gwaith sy’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi yn eu gwaith ac yn aros gobeithio gyda ni am amser hir. Mae hynna yn nod bwysig iawn i fi.
“Mae gyda ni aelodau staff sydd wedi bod yma ers dros 20 mlynedd ond ma’ hefyd ‘da ni rhai ifanc sydd newydd ymuno gyda’r tîm, felly mae hwnna’n gyfuniad perffaith o brofiad ac egni er mwyn gallu datblygu’r lle ‘ma."
Ychwanegodd: "Mae 'na ryddid, mae 'na gyfle i bawb siarad ac mae 'na agosatrwydd yn y tîm, fi’n teimlo. Fi’n lwcus, fi di gweithio ochr yn ochr gyda’r criw yma ers dwy flynedd a hanner, ac felly dwi’n nabod nhw’n dda.
"Ond mae’r ffaith fy mod i’n nabod nhw, nabod eu cymeriadau nhw a gwybod beth yw eu cryfderau nhw, fi’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth sy’n mynd i fod o help wrth symud yr agenda ymlaen."