
Nant Gwrtheyrn: 'Anwybyddu pryderon' am ddiwylliant 'afiach a gwenwynig’
Nant Gwrtheyrn: 'Anwybyddu pryderon' am ddiwylliant 'afiach a gwenwynig’
Mae rhai o weithwyr a chyn-weithwyr yn cyhuddo Bwrdd Ymddiriedolwyr Nant Gwrtheyrn o “anwybyddu” pryderon staff am ddiwylliant “afiach a gwenwynig” yno dros y ddegawd ddiwethaf.
Mewn rhaglen Y Byd ar Bedwar nos Lun, mae Huw Jones, Cadeirydd Bwrdd Nant Gwrtheyrn yn wynebu galwadau i ymddiswyddo gyda rhai yn dweud ei fod yn ymwybodol o’r pryderon ers amser maith.
Ym mis Ionawr fe dderbyniodd Y Byd ar Bedwar lythyr gan rai o weithwyr y ganolfan dysgu Cymraeg yn Llŷn, sy’n disgrifio diwylliant o fanipiwleiddio ac yn dweud bod diffyg gofal am les gweithwyr.
Dros y misoedd diwethaf mae’r rhaglen wedi siarad gyda bron i 30 o weithwyr a chyn-weithwyr Nant Gwrtheyrn am eu profiadau.

Fe adawodd Mathew Williams ei swydd yn Nant Gwrtheyrn yn 2021 ar ôl sylweddoli pa mor “anarferol” oedd ei brofiadau a pha mor “wenwynig” oedd yr awyrgylch yno.
“Roedd ‘na siarad tu ôl i gefn staff, cwsmeriaid, rhanddeiliaid eraill, dim cyfrinachedd o gwbl. Cwbwl amhroffesiynol.”
Mae gan bawb wnaeth rannu eu profiadau wahanol fathau o gwynion, ond roedd pob un ohonyn nhw yn codi pryderon am ymddygiad un person sydd ddim yn gweithio yna bellach.
“Amseroedd cinio, mi fysa na bwyslais ar bobol i fynd am ginio ar wahân, fel bod y staff ddim yn cael cinio hefo’i gilydd oherwydd paranoia y rheolwraig.
“Mi ddylai bod 'na gwestiynu wedi bod,” meddai Mr Williams.
Fe ddywedodd sawl cyn-weithiwr bod trosiant staff yn broblem fawr, gyda llawer o bobl yn gadael y sefydliad oherwydd ymddygiad un unigolyn.
Nid yw'r rhaglen yn enwi'r unigolyn gan ei bod hi erbyn hyn wedi gadael ei swydd. Mae’r Nant bellach yn chwilio am rywun i’w holynu hi.

Mae’r llythyr gan weithwyr presennol Nant Gwrtheyrn yn codi pryderon am forâl isel, ac yn dweud fod iechyd meddwl staff wedi dioddef dros y blynyddoedd.
Fe wnaeth sawl cyn-weithiwr ddweud wrth Y Byd ar Bedwar eu bod nhw wedi gorfod derbyn meddyginiaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl o ganlyniad i’w profiadau yn gweithio yno.
“Aeth hi’n wael iawn”, meddai un cyn-weithiwr anhysbys. “Ges i panic attack, blackout a gorfod mynd at y meddyg teulu a bennu lan ar antidepressants.”

Mae’r honiadau am yr unigolyn penodol yn dyddio o 2013 hyd at 2024, gyda sawl un sy’n teimlo fod cyfleoedd wedi eu methu i fynd i’r afael â’i hymddygiad.
‘Sgragen fach hyll’
Roedd Catherine Tudor Jones yn un o saith wnaeth gwyno i Fwrdd Nant Gwrtheyrn yn honni bod yr unigolyn yma yn ei bwlio hi ag eraill yn 2013.
“Mi na’th o ddechrau yn dawel bach - jyst rhyw sylwadau bach ar y slei, o’dd o’n teimlo braidd fel bod hi’n pigo, pigo, pigo ar bob mathau o bethau o ran fy ngwaith i a bywyd personol.
“Un diwrnod, na’th hi ddod fewn i fy swyddfa fi a gofyn, ‘Ti ‘di colli pwysau? [...] Roeddet ti’n arfer bod yn hogan ddel, ond rŵan ti’n edrych fatha rhyw sgragen fach hyll’.
“Dyna oedd y trobwynt i fi. Oedd o wir yn awyrgylch afiach i fod yn gweithio ynddo fo.”
Fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar gysylltu gyda’r unigolyn sy’n cael ei chyhuddo o greu awyrgylch gwenwynig dros e-bost a ffôn, ond cafwyd dim ymateb.
Dywedodd Nant Gwrtheyrn fod gan staff y Nant yr hawl i gael eu trin gyda pharch a thegwch, ac eu bod bob amser wedi ystyried cwynion yn ofalus.

Mae canolfan Nant Gwrtheyrn yn cael ei rheoli o ddydd i ddydd gan Brif Swyddog Gweithredol, ond Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am arian, eiddo a dyfodol y Nant.
Mae cyn-weithwyr sydd wedi siarad ar y rhaglen yn honni fod y bwrdd wedi bod yn ymwybodol o ofidion gweithwyr.
Cafodd un dyn gyfarfod gyda Chadeirydd y Bwrdd, Huw Jones wedi iddo ysgrifennu llythyr ato yn disgrifio awyrgylch gwenwynig i weithwyr a “thactegau bwlio cyfrwys”.
“Fe wnaeth o wrando arnai, cymryd nodiadau, ond ges i fy nghlywed? Hyd y gwn i, does dim llawer wedi newid.”
Dywedodd dyn arall: “Does ’na neb wedi gwrando am flynyddoedd, mae Cadeirydd y bwrdd wedi anwybyddu staff yn llawer rhy hir.”

Mewn datganiad i raglen Y Byd ar Bedwar mae rhai o aelodau o staff presennol Nant Gwrtheyrn wedi dweud nad oes ganddyn nhw ffydd yn y bwrdd wrth wynebu’r dyfodol ac eu bod nhw’n ofni cael eu siomi unwaith eto.
Mae’r galwadau hyn wedi cael eu cefnogi gan gyn-weithwyr sydd wedi galw ar y Cadeirydd Huw Jones i “ystyried ei ddyfodol” a sy’n dweud bod angen “llechen lân” ar Nant Gwrtheyrn.
Fe wnaeth Huw Jones wrthod gwahoddiad i wneud cyfweliad gyda Y Byd ar Bedwar.
Mewn datganiad ysgrifenedig mae’r bwrdd yn dweud eu bod nhw wedi cymryd camau i gryfhau’r cysylltiad rhwng aelodau’r bwrdd a’r staff, fel cynnal mwy o gyfarfodydd a chynnal arolwg blynyddol.
Fe ddywedon nhw hefyd nad ydyn nhw’n derbyn fod y rhaglen hon yn adlewyrchu barn staff Nant Gwrtheyrn gan ym mis Ionawr, fe wnaethon nhw gynnal arolwg annibynnol lle ma nhw’n dweud bod y mwyafrif yn hyderus yn eu harweinwyr.
Lluniau; ITV Cymru Wales
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Trwbwl yn y Nant ar 3 Mawrth am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer