Newyddion S4C

Penodi prif weithredwr newydd ar gyfer Nant Gwrtheyrn

Siwan Tomos

Mae Siwan Tomos wedi ei phenodi'n Brif Weithredwr Nant Gwrtheyrn - y ganolfan dysgu Cymraeg yn Llithfaen, Pwllhelli.  

Mae hi'n Rheolwr Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn ar hyn o bryd, ac mae hi wedi gweithio yn y ganolfan ers dros ddwy flynedd. 

Yn wreiddiol o Landudoch, Sir Benfro, mae Siwan a’i theulu wedi ymgartrefu ym Mhen Llŷn er chwe blynedd. 

Fe ddechreuodd ei gyrfa gyda mudiad yr Urdd cyn ymgymryd â swydd reoli gyda chwmni IAITH Cyf, yn gweithio ar brosiectau cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru. 

Ers iddi ymuno â’r tîm yn Nant Gwrtheyrn, mae Siwan Tomos wedi arwain holl elfennau dysgu Cymraeg y ganolfan. 

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Bwrdd Nant Gwrtheyrn: "Mae Siwan yn arweinydd naturiol ac angerddol ac mae ganddi weledigaeth gynhyrfus ar gyfer dyfodol y Nant. Roedd yn gyfrifol y llynedd am sicrhau’r canlyniadau gorau posib mewn arolwg Estyn yn y maes Cymraeg i Oedolion. 

"Yn awr mi fydd yn cymryd cyfrifoldeb am holl adnoddau’r safle arbennig yma, ac yn arwain y tîm sy’n estyn croeso i ddysgwyr ac ymwelwyr o bob math."

Honiadau

Daw'r penodiad wedi i rai o weithwyr a chyn-weithwyr gyhuddo Bwrdd Ymddiriedolwyr Nant Gwrtheyrn o “anwybyddu” pryderon staff am ddiwylliant “afiach a gwenwynig” yno dros y degawd diwethaf. 

Ar raglen Y Byd ar Bedwar yr wythnos diwethaf, roedd galwadau ar i'r cadeirydd Huw Jones ymddiswyddo gyda rhai yn dweud ei fod yn ymwybodol o’r pryderon ers amser maith. 

Ym mis Ionawr, fe dderbyniodd Y Byd ar Bedwar lythyr gan rai o weithwyr y ganolfan dysgu Cymraeg yn disgrifio diwylliant o fanipiwleiddio yno gan ddweud bod diffyg gofal am les gweithwyr.

Siaradodd y rhaglen gyda bron i 30 o weithwyr a chyn-weithwyr Nant Gwrtheyrn am eu profiadau. 

Fe ddywedodd sawl cyn-weithiwr bod trosiant staff yn broblem fawr, gyda llawer o bobl yn gadael y sefydliad oherwydd ymddygiad un unigolyn. 

Ni chafodd enwi'r unigolyn ei gyhoeddi gan ei bod hi erbyn hyn wedi gadael ei swydd. Dywedodd Nant Gwrtheyrn wrth ymateb i'r rhaglen eu bod yn chwilio am rywun i’w holynu hi.

Mae’r honiadau am yr unigolyn penodol yn dyddio o 2013 hyd at 2024, gyda sawl un yn teimlo fod cyfleoedd wedi eu methu i fynd i’r afael â’i hymddygiad. 

Wrth ymateb i'r honiadau hynny, dywedodd Nant Gwrtheyrn fod gan staff y Nant yr hawl i gael eu trin gyda pharch a thegwch, ac eu bod bob amser wedi ystyried cwynion yn ofalus. 

Cyfnod newydd 

Wrth ymateb i benodiad y prif weithredwr newydd Siwan Tomos, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Nant Gwrtheyrn, Huw Jones fod y ganolfan yn "symud ymlaen i gyfnod newydd."   

Bydd Siwan Tomos yn dechrau yn ei swydd ar 7  Ebrill. 

Yn Brif Weithredwr, bydd yn gyfrifol am holl elfennau’r ganolfan gan gynrychioli Nant Gwrtheyrn ar lefel leol a chenedlaethol. 

Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at gael arwain y tîm yno: "Mae'r Nant yn lle arbennig iawn sy'n gwneud gwaith arloesol a phwysig sy'n rhoi profiadau arbennig  i siaradwyr newydd a'n cwsmeriaid i gyd. 

"Rwy'n edrych ymlaen i ddatblygu'r gwaith yn lleol ac yn genedlaethol ac i feithrin perthnasau hen a newydd. Rwy'n barod am yr her ac yn ddiolchgar am y cyfle."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.