Gwybodaeth gan yr FBI yn arwain at garcharu cwpl o'r de am gam-drin plentyn
Mae cwpl o dde Cymru wedi eu carcharu am 23 mlynedd yr un wedi iddyn nhw rannu fideos ar-lein ohonynt yn cam-drin plentyn yn rhywiol.
Cafodd Jonathan Leonard, 58, o Gil-y-coed, Sir Fynwy, ac Ann Bray, 62, o Gasnewydd eu harestio gan swyddogion o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ym mis Medi 2024 ar ôl i wybodaeth gael ei dderbyn gan yr FBI.
Roedd dyfais Bray yn cynnwys fideos a delweddau o’r ddau yn cam-drin plentyn rhwng 2021 a 2024.
Darganfyddodd ymchwilwyr o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod Bray wedi bod yn meithrin perthynas â'r plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda'r ddau.
Fe wnaeth Bray ffilmio a thynnu lluniau o’r cam-drin, a’u rhannu â Leonard.
Daeth swyddogion o hyd i negeseuon rhyngddynt yn trafod y cam-drin, eu ffantasïau, a'u cynlluniau i gyflawni'r troseddau.
Rhannodd Leonard rai o'r delweddau hyn ar-lein wedi hynny.
Gwrthododd y ddau ateb unrhyw gwestiynau gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol am y cam-drin.
Plediodd y ddau yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ar 24 Ionawr.
Cafodd Leonard a Bray eu dedfrydu ddydd Llun i 23 mlynedd o garchar yr un, gydag wyth mlynedd i'w treulio ar drwydded.
Dywedodd Daniel Waywell, Uwch Swyddog Ymchwilio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: "Gweithiodd Leonard a Bray gyda'i gilydd i gefnogi diddordeb rhywiol ei gilydd mewn plant, gan beri i blentyn ddioddef blynyddoedd o gam-drin erchyll, a ffilmiwyd ac a rannwyd ar-lein ganddynt gyda phedoffiliaid eraill.
"Mae'r plentyn hwn, a phob un o ddioddefwyr cam-drin yn y delweddau a'r fideos anweddus ar eu dyfeisiau, yn dioddef bob tro y caiff y deunydd hwn ei weld a'i rannu ar-lein."