Cwest: Dyn o Gricieth wedi marw o oerfel 'ar ôl mynd yn sownd mewn mwd'
Mae cwest i farwolaeth dyn 92 oed o Wynedd wedi clywed ei fod wedi marw o oerfel ar ôl mynd yn sownd mewn mwd mewn cae.
Roedd William Morris Jones o ardal Cricieth wedi bod yn cerdded ar hyd llwybr oedd yn gyfarwydd iddo ger ei gartref yn Rhoslan ar ôl y Nadolig y llynedd.
Ond clywodd cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Llun bod y cae yn "gorsiog iawn" a'i fod mewn mwd at ei bengliniau.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan yr heddlu ar 29 Rhagfyr y llynedd yn dilyn cyfnod o chwilio amdano.
Roedd wedi bod yng Nghaernarfon y diwrnod cynt cyn dychwelyd ar y bws i ardal Cricieth.
Roedd tyst wedi ei weld yn cerdded heibio Mynydd Ednyfed i gyfeiriad ei gartref yn Rhoslan.
Yn dilyn hynny fe wnaeth yr heddlu chwilio yn y cae, gan ddod ar draws bag siopa ac ymbarél.
Dywedodd PC Adam Hall, a ddaeth o hyd i gorff Mr Jones: "Roedd yn anodd iawn cerdded drwy’r cae oherwydd y mwd dwfn corsiog.
"Gallai fod wedi mynd i drafferthion wrth geisio gerdded drwy’r cae."
Dywedodd y patholegydd Dr Muhammad Zain Mehdi fod yna fwd ar ei wyneb, ei freichiau a'i ddwylo.
"Mae’n debygol iddo aros allan yn yr oerfel dros nos," meddai.
Roedd hi'n dair gradd y noson honno.
"Mae'n debygol y byddai hyn yn achosi hypothermia," ychwanegodd.
Dywedodd Nora Roberts fod ei chefnder yn arfer bod yn ofalwr tir mewn clwb golff lleol ac yn "greadur o arfer" oedd yn mynd i siopa yng Nghaernarfon.
Dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson: "Daethpwyd o hyd iddo mewn cae hynod o gorsiog gyda mwd dwfn, yn gorwedd ar ei gefn."
Ychwanegodd: "Ar ei ffordd adref trwy’r cae corsiog hwnnw mae wedi mynd yn sownd yn y mwd.
"Heb allu achub ei hun, mae wedi bod yn y tymheredd oer dros nos ac yn anffodus mae wedi marw o ganlyniad i niwmonia oedd yn bodoli eisoes a hypothermia."
Daeth y cwest i'r casgliad bod ei farwolaeth yn ddamweiniol.