Caniatáu cais am 14 o dai fforddiadwy yn Nefyn
Mae aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi caniatáu cais i adeiladu 14 o dai fforddiadwy yn Nefyn, mewn cyfarfod o'r pwyllgor ddydd Llun.
Roedd wyth aelod o blaid caniatáu'r cynllun gyda phedwar yn gwrthwynebu'r datblygiad ar dir ger Tai Lôn yn y dref.
Bwriad y datblygwr, cwmni Williams Homes o'r Bala, ydy codi’r tai a darparu mynedfa newydd oddi ar ffordd y B4417, gan greu ffordd stad fewnol ynghyd a llwybrau cerdded, mannau parcio, ardaloedd wedi’u tirlunio, a chreu llecyn agored.
Roedd y cais yn cynnwys adeiladu pedwar fflat un ystafell wely, pum tŷ dwy ystafell wely, pedwar tŷ tair ystafell wely ag un tŷ â phedair ystafell wely.
Roedd swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell y dylai'r cais gael ei ganiatáu.
Llun: Google