
Dedfrydu dyn yn achos dwyn toiled aur gwerth £4.75 miliwn
Mae dyn oedd yn gysylltiedig â chynllun i ddwyn toiled aur gwerth £4.75 miliwn o Balas Blenheim yn 2019 wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio.
Fe gafodd y toiled aur 18 carat ei ddwyn o’r palas yn Sir Rhydychen yn ystod oriau mân y bore ar 14 Medi 2019.
Wrth ymddangos yn Llys y Goron Rhydychen ddydd Llun fe gafodd Frederick Doe, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Frederick Sines, ddedfryd o 21 mis o garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd.
Dywedodd y Barnwr Ian Pringle y bydd yn rhaid i’r gŵr 36 oed hefyd gyflawni 240 awr o waith di-dâl.
Cafwyd Mr Doe, o Windsor, Berkshire yn ne-ddwyrain Lloegr yn euog gan reithgor ym mis Mawrth, a hynny o gynllwynio i drosglwyddo eiddo troseddol.
Roedd Mr Doe wedi helpu James Sheen, a blediodd yn euog i fyrgleriaeth, i werthu darnau o’r aur yn yr wythnosau yn dilyn y lladrad.
Dywedodd y barnwr bod Mr Sheen, yn ogystal â Michael Jones o Rydychen, a gafwyd yn euog o fyrgleriaeth hefyd, wedi cymryd mantais o “gymeriad da” Mr Doe.
Dywedodd ei fod wedi cael ei “dargedu” yn sgil ei gysylltiadau yn y diwydiant gwerthu gemwaith.

Lluniau: PA