Cytundeb y DU a'r UE i 'roi hwb o £9 biliwn i'r economi'
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd cytundeb Syr Keir Starmer gyda’r Undeb Ewropeaidd yn llacio’r rheolau i deithwyr a busnesau gydag Ewrop, gan roi hwb o £9 biliwn i’r economi erbyn 2040.
Fel rhan o’r cytundeb newydd fe fydd mwy o dwristiaid o’r DU yn cael defnyddio giatiau electronig ym meysydd awyr tir mawr y cyfandir, bydd busnesau'r DU yn cael gwerthu byrgyrs a selsig dramor eto, ac fe fydd cŵn a chathod yn y DU nawr yn gymwys i gael pasbort.
Ond mae’r Prif Weinidog wedi wynebu beirniadaeth gan gefnogwyr Brexit wedi iddo ddod i gytundeb gyda’r UE ynglŷn â’r diwydiant pysgota.
Fe fydd cychod yr UE yn cael pysgota yn nyfroedd y DU tan 2038 fel rhan o'r cytundeb.
Fe wnaeth Syr Keir gyfarfod â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, a llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Antonio Costa ar gyfer cynhadledd yn Llundain ddydd Llun.
Dywedodd Syr Keir: “Mae’n hen bryd i ni edrych ymlaen – i symud ymlaen o’r hen ffraeo gwleidyddol gan ddod o hyd i synnwyr cyffredin a datrysiadau er mwyn gwella bywydau pobl Prydain.
“Ffiniau diogel. Biliau rhatach. Mwy o swyddi,” meddai.
Y Cytundeb
Ymhlith rhai o’r mesurau fydd yn cael ei gweithredu fel rhan o'r cytundeb, mae:
- Cytundeb i lacio rheolau ar fewnforion ac allforion bwydydd a diodydd rhwng y DU a gwledydd yn yr UE.
- Cael gwared ar rai mesurau gwirio cynhyrchion planhigion ac anifeiliaid gan olygu y bydd byrgyrs a selsig yn cael eu gwerth yn yr UE eto.
- Unioni cynlluniau ar reolau allyriadau gan olygu na fydd cwmnïau yn y DU yn cael eu taro gan dreth garbon Brwsel y flwyddyn nesaf.
- Penderfynu ar gynllun fydd yn golygu y gall pobl ifanc o’r DU a’r UE gael mwy o ryddid i fyw, gweithio ac astudio dramor. Mae’r Llywodraeth wedi dweud na fydd y cynllun yn effeithio ar eu targedau o ran mewnfudwyr.
- Diogelu allforion dur o’r DU rhag tariffau newydd yr UE, gan olygu bydd y diwydiant yn arbed £25 miliwn.
'Angen camau pellach'
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts wedi dweud ei bod yn croesawu’r cytundeb ond yn galw am “gamau pellach.”
“I Gymru, mae cysylltiadau cryfach â’n cymdogion Ewropeaidd yn golygu economi gryfach, cymunedau sydd yn ffynnu, a mwy o gyfleodd i bobl ifanc."
Ond dywedodd ei bod yn bryderus bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i gytundeb pysgota “sydd yn fater datganoledig, ond heb gynnwys llywodraethau datganoledig.”
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch, wedi beirniadu’r cytundeb pysgota hefyd. Dywedodd bod y blynyddoedd y bydd cychod yr UE yn gallu pysgota ar foroedd y DU “dair gwaith yn hirach na’r hyn roedd y Llywodraeth yn ei ddymuno.”
Dywedodd y bydd prinder manylion o ran terfyn amser ynglŷn â gallu pobl ifanc i fyw a gweithio rhwng gwledydd yDU a’r UE yn “creu pryderon.”
“Mae hyn yn peri pryder mawr,” meddai.
Ymateb arweinydd Reform UK, Nigel Farage oedd mai “dyma fydd y diwedd ar y diwydiant pysgota” wrth siarad am y cytundeb.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am undeb tollau newydd rhwng y DU a'r UE.
Llun: Kin Cheung/PA Wire