Môn: Dynes yn y llys ar gyhuddiad o gam-drin rhyw hanesyddol
Mae dynes 59 oed o Ynys Môn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gam-drin rhyw sydd yn dyddio yn ôl i'r 1980au.
Fe wnaeth Michelle Jones o Gaergybi wadu'r naw cyhuddiad yn ei herbyn, sydd yn cynnwys ymosod yn anweddus ar ferch ifanc.
Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â dwy ferch ifanc nad oes modd eu henwi.
Bydd yr achos llys yn ei herbyn yn cychwyn flwyddyn nesaf.
Ni chafodd unrhyw fanylion o'r achos eu trafod yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Fe wnaeth y Barnwr Nicola Jones ryddhau Michelle Jones ar fechnïaeth.