Carcharu dynes am 16 mlynedd am lofruddio ei phartner yn Wrecsam
Mae dynes 52 oed wedi’i charcharu am 16 o flynyddoedd am lofruddio ei phartner yn Wrecsam.
Fe laddodd Joanna Wronska o Bentre Gwyn ym Mharc Caia, Wrecsam, Marcin Koziol drwy ei drywanu yn ei galon.
Honnodd Wronska fod Mr Koziol wedi achosi'r anafiadau iddo'i hun mewn ymgais i ladd ei hun.
Ond fe gafodd y rheithgor Joanna Wronska yn euog o lofruddiaeth ar ôl llai na 90 munud o drafodaethau yn dilyn achos llys naw diwrnod yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis diwethaf.
Cafodd ei dedfrydu ddydd Llun i garchar am oes, gydag isafswm o 16 mlynedd dan glo.
Ychydig cyn 18.15 ar 23 Hydref 2023, derbyniodd yr heddlu alwad gan Wronska, a ddywedodd wrth swyddogion fod gan Marcin gyllell.
Cyrhaeddodd swyddogion eu cartref a chawsant eu cyfeirio at Marcin a oedd yn gorwedd yn y gwely gydag anaf mawr ar ei frest.
Ni ddaeth swyddogion o hyd i gyllell yn yr ystafell.
Galwyd parafeddygon ond nid oedd modd achub ei fywyd.
Dywedodd Wronska wrth swyddogion fod y cwpl wedi bod adref ar eu pen eu hunain ac nad oedd dim wedi digwydd cyn y digwyddiad.
Honnodd pan aeth i mewn i'r ystafell wely, iddi ddod o hyd iddo yn gorwedd ar y gwely, wedi'i orchuddio mewn gwaed ac yn gofyn iddi ffonio am ambiwlans.
Cafodd Joanna Wronska ei harestio y noson honno ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Wrth siarad yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Eleri Thomas: “Daeth Joanna Wronska a bywyd Marcin Koziol i ben yn ddisynnwyr ac yn ddiangen – roedd wedi dweud ei bod yn caru ei phartner yn fawr.
“Roedd yn ymosodiad creulon a threisgar ar ddyn oedd wedi chwilio am gefnogaeth ganddi.
“Yna aeth Wronska i drafferth fawr i gelu ei throsedd a thwyllo’r heddlu trwy honni bod Marcin wedi lladd ei hun, gan achosi trawma i’w deulu, gyda rhai ohonynt wedi gorfod dioddef yr artaith o roi tystiolaeth, ac yna cael eu gorfodi i wrando ar ei chelwydd trwy gydol yr achos.
“Fe wnaeth y gwaith trylwyr a diwyd a wnaed gan y tîm ymchwilio helpu’r rheithgor i weld trwy ei chelwyddau a sicrhau cyfiawnder i anwyliaid Marcin."