Gary Lineker i adael y BBC ar ddiwedd yr wythnos
Gary Lineker i adael y BBC ar ddiwedd yr wythnos
Mae'r sylwebydd chwaraeon Gary Lineker wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y BBC ar ddiwedd yr wythnos.
Bydd Lineker, 64, yn gadael y gorfforaeth yn gynt na'r disgwyl ac ni fydd yn cyflwyno Cwpan y Byd 2026 na Chwpan yr FA y tymor nesaf.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Lineker "ymddiheuro yn ddiamod" am rannu ac yna dileu neges gan Palestine Lobby ar ei gyfrif Instagram.
Roedd y neges yn sôn am Seioniaeth (Zionism) ac yn cynnwys darlun o lygoden sydd yn hanesyddol wedi ei weld fel delwedd all awgrymu gwrth-Semitiaeth.
Dywedodd y cyflwynydd nad oedd yn ymwybodol o symboliaeth y darlun pan wnaeth ei rannu.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Lineker: "Mae pêl-droed wedi bod wrth galon fy mywyd cyhyd ag y gallaf gofio – ar y cae ac yn y stiwdio.
"Mae'r gêm yn meddwl lot i mi yn ogystal â'r gwaith rwyf wedi’i wneud gyda’r BBC dros nifer o flynyddoedd.
"Fel y dywedais, ni fyddwn byth yn ail-bostio unrhyw beth gwrth-Semitig yn ymwybodol – mae’n mynd yn groes i bopeth rwy’n sefyll amdano."
Ychwanegodd: "Ond rwy’n cydnabod y gwall a’r gofid rwyf wedi'i achosi, ac yn ailadrodd faint yr wyf yn edifar.
"Mae camu’n ôl nawr yn teimlo fel y ffordd gyfrifol o weithredu."
'Llais hollbwysig'
Dywedodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC: "Mae Gary wedi cydnabod y camgymeriad a wnaeth.
"Mae Gary wedi bod yn llais hollbwysig ym myd pêl-droed i’r BBC ers dros ddau ddegawd.
"Mae ei angerdd a’i wybodaeth wedi llunio ein newyddiaduraeth chwaraeon ac wedi ennill parch cefnogwyr chwaraeon iddo ledled y DU a thu hwnt.
"Rydym am ddiolch iddo am y cyfraniad y mae wedi’i wneud."
Mae Lineker wedi bod yn cyflwyno rhaglen Match of the Day ers 1999.
Cyhoeddodd y llynedd y byddai'n rhoi’r gorau i'w swydd ar ddiwedd y tymor, gan barhau i gyflwyno Cwpan y Byd a Chwpan yr FA.
Ond daw ei ymadawiad yn gynt na'r digswyl yn sgil adroddiadau bod penaethiaid y BBC yn credu bod parhau i’w gyflogi yn "anghynaladwy".
Cafodd Lineker ei wahardd am gyfnod o’r BBC ym mis Mawrth 2023 ar ôl iddo feirniadu’r llywodraeth ar y pryd am ei pholisi ynglŷn â cheiswyr lloches.
Roedd o hefyd yn un o 500 o bobl gyda phroffil uchel wnaeth arwyddo llythyr yn gofyn i’r BBC ail-ddarlledu rhaglen ddogfen Gaza: How To Survive A War Zone ar BBC iPlayer ym mis Chwefror.
Ef yw’r cyflwynydd sydd wedi bod yn cael ei dalu fwyaf gan y BBC.
Yn ôl adroddiad y gorfforaeth ym mis Gorffennaf yr amcangyfrif oedd ei fod wedi cael cyflog o £1.35 miliwn yn y flwyddyn 2023/24.