Dyfan Lewis yn cipio Coron Eisteddfod AmGen 2021

04/08/2021
Dyfan Lewis

Dyfan Lewis yw enillydd Coron Eisteddfod AmGen 2021.

Yn wreiddiol o Graig-cefn-parc, mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac fe ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 19 o geisiadau.

Cyflwynir y Goron, a gynlluniwyd a chrëwyd gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas, am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 200 o linellau ar y pwnc, Ar wahân. 

Y beirniaid oedd Aled Lewis Evans, Elan Grug Muse ac Elinor Wyn Reynolds.

Dywedodd Elan Grug Muse yn ei berniadaeth: “Mae’r casgliad yn un cyflawn, a’r safon dros ddwsin o gerddi yn gyson. Mae’r cerddi yn llwyddo i wyro oddi ar lwybrau disgwyliedig, treuliedig, gan droi i gyfeiriadau newydd ac weithiau annisgwyl.”

Roedd geiriau Elinor Wyn Reynolds hefyd yn llawn canmoliaeth: “Dyma gyfres o gerddi trydanol, cyhyrog, deallus; mae’r bardd yn ddiwastraff yn ei ddefnydd o eiriau a’i fynegiant.

“Mae ganddynt undod pendant ac maent yn creu casgliad amlhaenog, aeddfed o gerddi sy’n haeddu eu darllen sawl gwaith o’r bron. Casgliad sy’n cyrraedd y Dosbarth uchaf yn ddiamheuol yw’r hwn.”

Aled Lewis Evans oedd yn traddodi ar ran y tri beirniaid yn y seremoni yng Nghaerdydd nos Fercher.

Dywedodd: “Hoffais gynildeb y bardd hwn: emosiwn wedi ei ddal yn dynn a’i harneisio’n effeithiol. Gwelwn y gallu i grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes, ond hefyd i ddal ton newydd ei hyder.

“Er bod hoff gerddi personol gennym fel tri beirniad unigol, roedd y tri ohonom wrth ddidoli wedi gosod y canlynol yn y Dosbarth Cyntaf : Cysgod, Crwydryn, a Mop. Wedi trafodaeth werthfawrogol am y gystadleuaeth drwyddi draw, daethom i’r farn gytûn mai Mop yw enillydd Coron (AmGen) yr Eisteddfod eleni.”

Aeth Dyfan Lewis i Ysgol Gynradd Felindre ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe cyn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn 2018, dechreuodd rannu ei waith creadigol gyda phamffled o gerddi a ffotograffau o'r enw Golau. Y flwyddyn honno hefyd enillodd ar y stori fer ac ar yr ysgrif yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Daeth Mawr, pamffled arall o gerddi yn 2019, a'r llynedd cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau taith, Amser Mynd ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru. Mae'n cyhoeddi ei waith drwy ei wasg ef ei hun - Gwasg Pelydr.

Mae'n diolch i Efa, i'w rieni Angharad ac Emyr, ac i Owain ac Esyllt am eu cefnogaeth gyson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.