Lowri Morgan 'mor falch' o gwblhau her rhedeg eithafol wedi anafiadau
Mae’r rhedwraig brofiadol, Lowri Morgan wedi siarad am ei balchder o gwblhau her rhedeg eithafol ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi cyfnod o anafiadau.
Fe lwyddodd y rhedwraig 51 oed i gwblhau’r her ‘Ultra-Trail’ 100km drwy fynyddoedd Eryri gan groesi’r llinell derfyn mewn amser o 17 awr a 57 munud.
Roedd yn rhaid i’r rhedwyr gwblhau’r her o fewn 32 awr.
Fe ddaeth hi’n bedwerydd yn y ras ac yn gyntaf yn ei grŵp penodol.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd Lowri mai’r nod oedd gorffen y ras “cyn hanner nos”.
“Fe wnes i groesi’r llinell mewn 17 awr 57 munud- amser doeddwn i ddim yn meddwl oedd o fewn fy nghyrraedd i. Ddim rhy ffôl ar gyfer rhywun sy’n 51 oed!”.
Dywedodd ar Instagram ei bod wedi gorfod mynd trwy gyfnod o wella ar ôl dioddef sawl anaf difrifol. Fe gafodd anaf i’w phen-glin chwith ar daith sgïo ac roedd parhau i redeg wedi rhoi pwysau ar ei phen-glin arall meddai. Mae hi hefyd wedi bod yn dioddef gydag anaf i’w hysgwydd. Roedd cymryd rhan yn y ras yn “risg” meddai.
“Ond ro’n i yna. Ac roedd hynny’n golygu popeth,” meddai.
Dywedodd ei bod wedi treulio blynyddoedd ddim yn gwneud môr a mynydd o’i llwyddiant yn y gorffennol ond ei bod yn “dysgu i newid hynny.”
“Fe wnes i’n dda. A dwi’n falch.”