Newyddion S4C

Tîm dynion Everton yn chwarae eu gêm olaf ym Mharc Goodison

everton.jpg

Mae tîm dynion Everton wedi chwarae eu gêm olaf ym Mharc Goodison ddydd Sul. 

Mae'r stadiwm wedi bod yn gartref i'r tîm dynion ers 133 o flynyddoedd. 

Enillodd Everton yn erbyn Southampton o 2-0 brynhawn Sul. 

O'r tymor nesaf, fe fydd tîm David Moyes yn chwarae mewn stadiwm newydd sy'n dal 52,888 o bobl yn Noc Bramley-Moore ar lannau Afon Mersi.

Mae'r clwb wedi cyhoeddi y bydd tîm y menywod yn chwarae ym Mharc Goodison y tymor nesaf. 

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd rheolwr tîm y dynion David Moyes: "Dwi'n meddwl fod pob Evertonian wedi bod yn aros fwy neu lai am y foment yma am amser hir, oherwydd yr edrych ymlaen at y stadiwm newydd. 

"Fe fydd yn ddiwrnod trist, dwi'n meddwl y bydd yn ddiwrnod emosiynol i nifer o bobl."

Dychwelodd Moyes i'r clwb ym mis Ionawr, wedi iddo hefyd fod yn rheolwr yno rhwng 2002 a 2013.

Ychwanegodd y bydd yn fraint iddo fod yn rheolwr ar y tîm yn eu gêm olaf yn Goodison. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.