Arestio ail ddyn wedi i danau gynnau mewn tai sy'n gysylltedig â Keir Starmer
Mae dyn 26 oed wedi ei arestio ym maes awyr Luton, wedi i danau gynnau mewn dau dŷ a char sy'n gysylltiedig â Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer.
Yn ôl Heddlu'r Met, cafodd ei arestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o gynllwynio i gynnau tân, gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Dyma'r ail ddyn i'w arestio, mewn cysylltiad â'r tanau.
Mae Roman Lavrynovych, dinesydd o Wcráin sy'n byw yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain, wedi ymddangos mewn llys i wynebu tri chyhuddiad o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Cafodd y dyn 21 oed ei gadw yn y ddalfa ar ôl y gwrandawiad ddydd Gwener yn Llys Ynadon Westminster.
Dyw e ddim wedi cyflwyno ple a bydd yn ymddangos yn Llys yr Old Bailey ddechrau Mehefin .
Yn ystod oriau mân fore Llun,12 Mai, fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yn y cartref yn Kentish Town, Llundain lle'r oedd Syr Keir Starmer yn byw cyn iddo symud i Rif 10 Downing Street.
Roedd difrod i fynedfa'r cartref ond chafodd neb ei anafu.
Fe gafodd car oedd yn gysylltiedig â Syr Keir hefyd ei roi ar dân yn honedig yn ystod oriau mân 8 Mai ar yr un stryd.
Ychydig ar ôl 03.00 ar 13 Mai, cafodd Brigâd Dân Llundain ei galw i dân wrth fynedfa tŷ arall yn Llundain.
Mae'r tŷ yn Islington, a gafodd ei drawsnewid yn fflatiau, hefyd yn gysylltiedig â Syr Keir Starmer.