Leeds United yn rhyddhau datganiad am lun o fab Ethan Ampadu
Mae Clwb Pêl-droed Leeds United wedi rhyddhau datganiad mewn ymateb i lun o fab y Cymro Ethan Ampadu mewn crys clwb Galatasaray yn Nhwrci yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Ampadu yw capten Leeds. Cafodd dau o gefnogwyr y clwb, Kevin Speight a Christopher Loftus, eu trywanu i farwolaeth yn Istanbul yn 2000 cyn gêm rhwng Leeds a Galatasaray.
Mewn datganiad, dywedodd Leeds nad oedd gan Ampadu gyfrifoldeb am gyhoeddi'r llun na'i gynnwys.
Dywedodd datganiad y clwb ddydd Gwener: "Mae Leeds United yn ymwybodol o ddelwedd ar-lein o fab Ethan Ampadu.
"Gwahanodd Ethan oddi wrth ei bartner sawl mis yn ôl ac nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb am y ddelwedd dan sylw.
"Mae Ethan yn ymwybodol ac yn sensitif i'r golled drasig o fewn teuluoedd Loftus a Speight. Mae’r clwb yn gofyn i breifatrwydd Ethan gael ei barchu mewn cyfnod anodd iddo ef yn bersonol.
"Mae ein capten wedi bod yn arweinydd ar ac oddi ar y cae y tymor hwn, gan ddangos ei ymrwymiad i’r clwb, ei hanes, a chymuned ehangach Leeds.
"Mae gan Ethan gefnogaeth lawn pawb yn Leeds United. Ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylw pellach."