'Gwerthfawr': Dros 1,700 yn arwyddo deiseb i arbed archifdy Prifysgol Bangor rhag toriadau
Mae dros 1,700 o bobl wedi arwyddo deiseb er mwyn arbed archifdy Prifysgol Bangor rhag toriadau posib.
Mae’r brifysgol wedi dweud bod adran Archifau a’r Casgliadau Arbennig y brifysgol yn rhan o ymgynghoriad ar dorri costau yn y brifysgol.
Yn ôl y ddeiseb mae peryg y gallai unrhyw doriadau “arwain at fygythiad sydyn a digynsail i fynediad i dreftadaeth”.
Mewn llythyr at staff ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Yr Athro Edmund Burke bod y brifysgol bellach yn chwilio am "tua £5.3 miliwn" ac mae hynny yn "cynrychioli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".
Mae 1,718 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb er mwyn arbed yr archifdy rhag toriadau hyd yn hyn.
Dywedodd sylfaenydd y ddeiseb, Alex Ioannou, bod y toriadau posib i'r archif yn “bygwth dyfodol un o bileri Prifysgol Bangor”.
O Gyprus yn wreiddiol, mae bellach yn byw yn y Felinheli ac wedi bod yn gweithio fel intern yn yr Archifdy am gyfnod ac ar hyn o bryd yn astudio doethuriaeth yn y brifysgol.
“Mae’n anhygoel gweld fod cymaint o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae hynny’n dangos pa mor werthfawr ydi’r adnoddau yno - os nad ydi’r brifysgol yn newid eu meddyliau, o leiaf mae ‘na bobl wedi dangos cefnogaeth.”
Dim ond pedwar aelod o staff oedd yn gweithio yno ar hyn o bryd felly fe fyddai unrhyw doriadau yn cael effaith sylweddol ar eu gallu i ddarparu’r un gwasanaeth, meddai.
“Byddai eu gwybodaeth a’u blynyddoedd o brofiad o weithio yno yn cael eu colli,” meddai.
“Gall llawer o adnoddau fod yno ond mae cael y staff a'r bobl i'ch helpu chi i'ch tywys, mae hynny'n bwysig iawn hefyd.”
Cynigion
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: “Mae'r Brifysgol wedi lansio ymgynghoriad ynghylch newidiadau sy’n cael eu cynnig fel rhan o strategaeth ehangach i leihau costau.
“Mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud sydd wedi lleihau'r targed arbedion sy'n weddill i tua £5.3 miliwn, sydd yn anffodus yn golygu lleihad mewn costau staff sy'n cyfateb i tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.”
Ychwanegodd fod yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn rhan o’r ymgynghoriad.
“Dim ond cynigion yw'r rhain ar hyn o bryd ac rydym yn ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.”
‘Pwysig’
Dywedodd Alex Ioannou wrth Newyddion S4C na fyddai wedi bod yn bosib iddo wneud ei waith ar Ystâd Penrhyn heb yr ystorfa o hanes lleol sydd yn yr archifdy.
Roedd llawer o bobl nad oedd yn haneswyr academaidd, gan gynnwys pobl o’r byd celfyddydol, hefyd yn defnyddio’r archif, meddai.
“Mae Prifysgol Bangor wedi eu hymddiried i ddal casgliadau Ystâd Penrhyn, sy’n dros 700 mlynedd o ddogfennau.” meddai Alex.
Dywedodd ei fod yn bosib y byddai toriadau yn golygu nad oedd yr archif yn gallu cadw rhaid dogfennau.
“Ni fyddwn yn gwybod i ble y byddant yn mynd felly bydd pobl yn colli mynediad atynt,” meddai. “Mi fyddai’n golled enfawr."