Beiciwr wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Nyffryn Tawe
Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i feiciwr farw wedi gwrthdrawiad yn Nyffryn Tawe.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4221 yn ne Powys ger Coelbren, wrth gyffordd Heol Cefn Byrle tua 15:15 ddydd Iau.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys fan a beiciwr, a bu farw'r beiciwr gwrywaidd yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymchwiliad i'r gwrthdrawiad ac fe gafodd ei hailagor tua 22:40.
Mae’r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau camera dashfwrdd i gysylltu â nhw.