Cynghorydd o Fôn yn derbyn cerydd ar ôl dweud bod 'angen saethu pob Ceidwadwr'
Mae cyn arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi derbyn cerydd ar ôl iddo ddweud mewn cyfarfod cyngor bod angen saethu pob Ceidwadwr.
Fe wnaeth y cynghorydd Ieuan Williams, oedd yn ddirprwy arweinydd ar yr awdurdod ar y pryd, y sylw mewn cyfarfod o’r cyngor ym Mehefin 2023.
Yn dilyn y cyfarfod, fe wnaeth Mr Williams ymddiheuro am y sylwadau, gan ymddiswyddo fel dirprwy arweinydd ac o gorff gweithredol y cyngor.
Fe wnaeth hefyd gyfeirio ei hun at bwyllgor safonau’r cyngor ac i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a wnaeth gynnal ymchwiliad i’r sylwadau.
Mae Mr Williams wedi bod yn gynghorydd sir ers 2008, ac roedd yn arweinydd ar yr awdurdod lleol rhwng 2013 a 2017. Roedd yn gynghorydd annibynnol ar yr adeg pan wnaeth y sylw.
Torri'r cod ymddygiad
Mewn gwrandawiad o Bwyllgor Safonau'r Cyngor ddydd Gwener, fe wnaeth Mr Williams gyfaddef iddo dorri’r Cod Ymddygiad wrth wneud y sylw.
Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu cau allan o ran o’r cyfarfod wrth i Mr Williams drafod manylion personol ac effaith yr achos ar ei les personol.
Wrth ystyried cosb, dywedodd swyddog monitro’r pwyllgor, Lynn Ball, fod gan y pwyllgor bedwar opsiwn:
- i beidio â chymryd unrhyw gamau yn erbyn y Cynghorydd Williams;
- i roi cerydd i'r Cynghorydd Williams;
- ei atal yn rhannol am gyfnod o ddim mwy na chwe mis;
- neu ei atal yn gyfan gwbl am gyfnod o ddim mwy na chwe mis.
Yn y cyfarfod, fe wnaeth yr Ombwdsmon argymell y pwyllgor i beidio cymryd camau pellach o ystyried y "niwed i enw da" Mr Williams ar ôl iddo wneud y sylw.
Ond ar ôl ystyried y dystiolaeth, fe benderfynodd y pwyllgor i geryddu Mr Williams.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Dylan Owen: "Mae'r pwyllgor o'r farn fod difrifoldeb yr achos hwn yn disgyn rhwng pen uchel y gofyniad 'dim gweithredu', ond ar ben isaf y gofyniad 'atal dros dro'."
Yn un o'r "ffactorau lliniarol", yn ôl Mr Owen, "oedd hanes yn flaenorol o wasanaeth da. Yn enwedig dros gyfnod maith."
"Dim ond unwaith ddigwyddodd y camymddwyn," ychwanegodd.
"Mae'r aelod ei hun wedi rhoi gwybod am y dor amod. Mae'r aelod yn cydnabod ac yn edifarhau'r camymddwyn ag unrhyw ganlyniadau.
"Mae'r aelod wedi ymddiheuro ac wedi ymddiheuro'n gynnar i unrhyw un gafodd ei effeithio.
"Mae'r aelod hefyd wedi cydweithredu mewn ymdrechion i gywiro effaith y methiant, a hefyd wedi cydweithredu â'r swyddog ymchwilio a'r pwyllgor safonau.
"Mae'r aelod hefyd yn derbyn ei fod angen newid ymddygiad yn y dyfodol ac mae'r aelod wedi cydymffurfio gyda'r cod ers y digwyddiad."
'Ymfflamychol'
Ar ran Ombwdsmon, dywedodd Llinos Lake: “Mae gan y Cynghorydd Williams hanes o wasanaeth da i’r awdurdod.
“Roedd ei gamymddwyn yn ddigwyddiad unigol ac yn fynegiant o rwystredigaeth. Doedd y sylw ddim wedi’i gyfeirio at unigolyn nac oedd wedi’i fwriadu i greu tramgwydd.
“Doedd y tystion ddim yn ystyried bod y Cynghorydd Williams wedi golygu’r sylw yn llythrennol ac fe gymrodd y Cynghorydd Williams gamau i unioni ar unwaith gan gynnwys ymddiheuro i’r rhai oedd yn y cyfarfod, camu i lawr fel dirprwy arweinydd a hunan gyfeirio at yr Ombwdsmon.
"Mae’r Cynghorydd wedi cydweithio gyda’r Ombwdsmon a’r pwyllgor safonau, ac wedi derbyn bod y sylw wedi torri’r cod. Mae o wedi mynegi gofid am wneud y sylw ac wedi derbyn yr angen i fod yn fwy gofalus yn y dyfodol wrth fynegi ei farn.
“Mae natur ymfflamychol a pharhaus y sylw yn berthnasol yma hefyd, yn ogystal â’r effaith gafodd y sylw, gan gynnwys adroddiadau eang yn y cyfryngau. Felly mae’r sylw wedi dwyn anfri ar yr awdurdod lleol.”
Ymddiheuriad
Wedi i Mr Williams wneud y sylw, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ynys Môn ar y pryd, Virginia Crosbie, bod y sylwadau yn rhai gwarthus.
“Nid sylwadau sy’n cael eu gwneud ym mywyd gwleidyddol oedd y rhain, roedd hyn yn atgasedd pur,” meddai Ms Crosbie ar y pryd.
"Mae’r Cynghorydd Williams yn gwybod fy mod yn gwisgo fest gwrth drywanu mewn cymorthfeydd gydag etholwyr ond mae dal i ddweud y dylwn i a Cheidwadwyr eraill gael ein saethu.
“Mae dau AS wedi colli eu bywydau yn y saith mlynedd diwethaf ac mae dal i feddwl bod dweud y fath bethau yn iawn.”
Wrth ymddiheuro ar y pryd, dywedodd Mr Williams mewn datganiad: “Rwy’n ymddiheuro’n fawr am unrhyw sarhad a achoswyd gan fy sylw amhriodol.
“Gwnaed y sylw ar ddiwedd datganiad llawn emosiwn, yn dilyn cyflwyniad ar dlodi ar Ynys Môn.
“Yn amlwg, nid wyf o blaid saethu unrhyw un ac rwyf wedi ymddiheuro i bob aelod a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
“Nid yw hyn yn ymwneud ag unrhyw unigolyn. Y gwir broblem dan sylw yma yw’r hyn a wnaeth i mi deimlo mor ddig ac emosiynol yn y lle cyntaf.
“Mae gennym gynnydd o 99% yn y defnydd o fanciau bwyd ar Ynys Môn yn y tri mis ers Tachwedd 2022.”