Newyddion S4C

Teyrnged i 'fab cariadus' fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghapel Curig

16/05/2025
Carwyn Huws

Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghapel Curig ar 10 Mai wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Carwyn Huws, 20, o Fethesda, yn y gwrthdrawiad ffordd ger Capel Curig. 

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Yn fab cariadus i Georgina a Hefin ac yn frawd i Arlun. Roedd pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu, Carwyn oedd y person mwyaf annwyl a chariadus ac roedd o bob tro yna i bawb. 

"Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u geiriau caredig ac rydym yn gofyn i'n preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod torcalonnus yma. 

"Yn benodol, hoffem ddiolch i'r tîm achub mynydd, y parafeddygon a'r timau Ambiwlans Awyr a wnaeth weithio mor galed i'w achub.

"Roeddem ni'n caru Carwyn gymaint, mae ein calonnau wedi eu torri."

Mae'r ymchwiliad yn parhau i sefydlu amgylchiadau'r gwrthdrawiad. 

Mae'r llu yn parhau i apelio am wybodaeth a thystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn 17:30 ar ddydd Sadwrn, 10 Mai ar yr A5 yng Nghapel Curig.

Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur Honda a fan Volkswagen.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys fynychu, ond bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle. 

Cafodd y ddynes oedd yn teithio ar gefn y beic modur ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke lle mae'n parhau gydag anafiadau difrifol. 

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000387021.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.