Menyw yn gwadu cyhuddiadau sy'n gysylltiedig â llofruddiaeth honedig yng Nghaerdydd
Mae menyw wedi gwadu cyhuddiadau sy'n gysylltiedig â llofruddiaeth honedig menyw arall yng Nghaerdydd.
Plediodd Maryam Delavary, 48, yn ddieuog i gyhuddiadau o atal claddu corff yn gyfreithlon a hefyd gweithredoedd a allai wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â marwolaeth Paria Veisi, 37, wedi i’w chorff gael ei ddarganfod mewn eiddo yn ardal Penylan yng Nghaerdydd ym mis Ebrill.
Siaradodd Ms Delavary, o Australia Road, White City Estate, yng ngorllewin Llundain, i gadarnhau ei henw a nodi ei phle yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae ei chyd-ddiffynnydd Alireza Askari, 41, o Benylan, Caerdydd, wedi'i gyhuddo o lofruddio Ms Veisi.
Plediodd y ddau yn ddieuog, ac mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl i achos llys bedair wythnos o hyd ddechrau yn Llys y Goron Caerdydd ar 6 Hydref.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod Ms Veisi ar goll ar ôl iddi adael ei gweithle yn ardal Canton yng Nghaerdydd ar 12 Ebrill.
Cafodd cwest i farwolaeth Ms Veisi ei agor yn Llys Crwner Ardal Canol De Cymru ym Mhontypridd ddydd Iau.
Dywedodd swyddog y crwner fod adroddiad post-mortem wedi nodi canfyddiad cychwynnol y farwolaeth fel clwyfau trywanu yn y gwddf a rhan uchaf y frest.
Fe wnaeth y crwner Patricia Morgan ohirio'r cwest tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.