Newyddion S4C

Dau ddiffoddwr tân ac aelod o'r cyhoedd wedi marw mewn tân yn Sir Rhydychen

Bicester Motion

Mae dau ddiffoddwr tân ac aelod o'r cyhoedd wedi marw ar ôl tân mawr yn un o gyn-ganolfannau yr Awyrlu Brenhinol yn Sir Rhydychen.

Dywedodd y cyngor sir fod y ddau ddiffoddwr tân wedi marw wrth ymladd y tân yng nghyn-ganolfan y Llu Awyr Brenhinol yn Bicester Motion ddydd Iau.

Fe wnaeth dau ddiffoddwr tân arall ddioddef anafiadau difrifol ac maent yn yr ysbyty ar hyn o bryd, meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Fe gafodd deg criw tân ac achub eu galw ac roedd yna rybuddion i drigolion lleol i aros dan do.

Dywedodd y cyngor fod pedwar criw yn parhau yn y fan a'r lle a bod y tân bellach dan reolaeth.

Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer bod y marwolaethau yn "newyddion ofnadwy".

"Mae dewrder ein diffoddwyr tân yn syfrdanol,” meddai.

“Gobeithio y bydd yna wellhad buan i’r rhai sydd yn yr ysbyty.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.