ASau i drafod y Bil Cymorth i Farw yn San Steffan
Fe fydd Aelodau Seneddol yn cynnal trafodaeth am y Bil Cymorth i Farw unwaith yn rhagor yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener.
Pleidleisiodd ASau o 330 i 275, mwyafrif o 55, i gymeradwyo’r bil ar yr ail ddarlleniad ym mis Tachwedd y llynedd.
Bydd ASau yn cymryd rhan mewn sesiwn pum awr lle bydd amryw o welliannau i’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol yn cael eu trafod a’u pleidleisio arnynt.
Er hyn, mae’n bosib y bydd ail ddiwrnod yn cael ei drefnu fis nesaf i barhau â’r trafodaethau, ac felly ni fyddai’r bleidlais yn cael ei wneud ddydd Gwener.
Mae gwrthwynebwyr wedi dadlau nad oes gan y mesur ddigon o ddiogelwch a’i fod wedi ei gyflwyno ar frys.
Mae dau goleg meddygol brenhinol wedi lleisio eu hamheuon ynghylch y ddeddfwriaeth fel y mae yn bresennol.
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) wedi dweud ei fod yn credu bod “diffygion pryderus” gyda’r ddeddfwriaeth arfaethedig fel y mae.
Hefyd, mae gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) “bryderon difrifol” ac ni all gefnogi’r bil presennol.
Dywedodd y Fonesig Esther, a gafodd y clod am ei hymdrechion i ddod â’r sgwrs ar farw â chymorth i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ei bod hi’n parhau i fod yn gefnogwr cryf o’r Bil.
Dywedodd y ddynes 84 oed, sydd â chanser cam pedwar, mewn datganiad: “Rwy’n parhau i gefnogi Bil Cymorth i Farw Kim Leadbeater yn llwyr”.
Ychwanegodd y byddai’n “rhoi’r dewis sydd ei angen arnynt ac y maen nhw’n ei haeddu ar ddiwedd eu hoes i gleifion, fel fi, sydd â diagnosis terfynol.”
Mae Syr Keir Starmer ar daith yn Albania, ac felly ni fydd yn y ddadl, ond mae wedi nodi ei fod yn parhau i gefnogi’r ddeddfwriaeth.
Pleidleisiodd y Prif Weinidog dros y mesur y llynedd ac mewn sylwadau i ohebwyr yr wythnos hon, dywedodd ei fod yn wynebu "llawer o graffu", gan ychwanegu ei fod yn "fodlon" ei fod wedi cael "digon o amser" yn y Senedd.