Arestio trydydd person mewn cysylltiad â fideo sy'n dangos ymosodiad ar ddisgybl ysgol
Mae’r heddlu wedi arestio trydydd person mewn cysylltiad â fideo sy'n dangos ymosodiad honedig ar ddisgybl ysgol yn ardal Llyswyry, Casnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent wybod am fideo a oedd yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Maen nhw bellach wedi adnabod y person ifanc ac yn rhoi cefnogaeth iddo.
Cafodd dyn 30 oed a bachgen 13 oed o Gwmbrân eu harestio nos Fercher mewn cyswllt â’r digwyddiad.
Nos Iau, fe wnaeth yr heddlu arestio bachgen 11 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin a chynllwynio.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Townsend fod “mwyafrif helaeth” y cyhoedd wedi bod yn “gefnogol iawn” i’r ymchwiliad drwy ddarparu gwybodaeth amserol a defnyddiol ynglŷn â’r ymchwiliad.
"Rydym bellach yn credu ein bod wedi adnabod y rhan fwyaf o'r rhai yr ydym yn amau eu bod wedi chwarae rhan yn y digwyddiad hwn, ac rydym yn gweithio'n gyflym i ddod â'r bobl hyn i mewn i'w holi," meddai.
Rhybuddiodd fod angen i‘r cyhoedd ystyried yr iaith a thôn y maen nhw’n ei ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Byddem yn annog pobl i beidio â dyfalu na nodi unrhyw un ar-lein y credir eu bod yn gysylltiedig gan mai ymchwiliad byw yw hwn," ychwanegodd.