Port Talbot: 'Mwy yn anghytuno' â thargedau net sero ar ôl cau safle Tata
Port Talbot: 'Mwy yn anghytuno' â thargedau net sero ar ôl cau safle Tata
Tan y llynedd, doedd nunlle o fewn y DU yn gollwng mwy o garbon i'r atmosffer a'r fan yma.
Ar ol cau'r ffwrnesi chwyth yng ngweithfeydd dur Port Talbot mae'n haws i Gymru gyrraedd ei thargedau atal newid hinsawdd.
Daeth hynny a chost gyda channoedd o weithwyr yn colli eu gwaith.
"Nice and slow. You don't have to go nuts."
"Pobl fi'n cwrdda yn enwedig y rhai sy'n ex Tata ni 'di cael un neu ddau yn dagrau a dim yn gwybod ble i fynd.
"Maen nhw ar goll ac yn teimlo bod nhw 'di cael eu anghofio amdano."
Buodd Shaun yn gweithio am flynyddoedd yng ngweithfeydd Tata.
Bellach mae'n hyfforddi periannwyr trydanol.
Rhai o'r rheiny gollodd eu swyddi y llynedd yn dod i'w dosbarthiadau.
Faint o ddifrod mae e 'di wneud i fel mae pobl yn teimlo am net sero?
"Mae wedi pwsho fe yn y ffordd anghywir a mwy yn anghytuno ag e.
"Maen nhw'n grac a'r penderfyniad sydd wedi cael ei wneud pam mae wedi cael ei wneud a pam mae'n mynd trwyddo mor glou."
Mae'r corff sy'n cynghori'r Llywodraeth ar dorri allyriadau yn feirniadol iawn o'r hyn ddigwyddodd ym Mhort Talbot.
Dim yn enghraifft dda o sut i symud yn llwyddiannus at ddyfodol gwyrdd.
Dyle Llywodraethau Cymru a'r DU fod wedi gwneud mwy i baratoi'r ardal gan fod trafferthion y diwydiant dur, a'r angen i ddadgarboneiddio wedi bod yn hysbys ers blynyddoedd.
Roedd angen strategaeth i alluogi gweithwyr i ailhyfforddi a sicrhau bod swyddi eraill yn yr economi werdd yn barod ar eu cyfer.
Hyd yma, mae Cymru wedi llwyddo cyrraedd ei thargedau o ran torri'r allyriadau sy'n cynhesu'r blaned drwy newidiadau i'r sector cynhyrchu trydan a thwf ynni glan.
O hyn ymlaen yr her fydd cefnogi'r cyhoedd i addasu'n ffordd o fyw dewis car trydan neu drafnidiaeth gyhoeddus a gwresogi'n tai a thechnolegau carbon isel.
"Mae angen newidiadau ym mhob rhan o'n bywydau.
"Gall fod yn bositif ac yn gyfle i ddatblygu'n genedl mwy gwydn ac i leihau anghyfartaleddau drwy cael trafnidiaeth gyhoeddus gwell, insiwleiddio'n cartrefi ac i ddefnyddio llai o drydan, ynni a dwr a gwastraffu llai."
Mae 'na alw hefyd ar i Lywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr i ddibynnu'n llai ar gynhyrchu cig a llaeth.
Maen nhw'n rhagweld gostyngiad o 19% mewn defaid a gwartheg erbyn 2033 i leihau allyriadau methan a chael tir i blannu coed ac adfer mawn.
"Mae'r diwydiant sydd yng Nghymru wedi'i seilio ar anifeiliaid.
"Ni sy'n gallu cynhyrchu y cig gorau gyda'r lleia gost o garbon.
"Mawr obeithio bod nhw ddim yn ystyried unrhyw ostyngiad mewn niferoedd anifeiliaid achos mae'r economi a miloedd o swyddi'n ddibynnol ar hyn."
Diolch mae Llywodraethau Cymru a San Steffan i'r pwyllgor am eu cyngor gan ddweud bod cefnogi'r diwydiant dur a chymuned Port Talbot yn flaenoriaeth i sicrhau bod dyfodol disglair ar y gorwel.