'Arloesol': Cynnal Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
'Arloesol': Cynnal Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
Roedd cannoedd yn bresennol yng Ngŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Arberth, Sir Benfro ddydd Sadwrn.
Cafodd gorymdaith ei chynnal drwy'r dref, cyn y seremoni i groesawu'r brifwyl i'r fro yn 2026.
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn Sir Benfro oedd yn 2002 yn Nhyddewi.
Bydd dalgylch yr ŵyl yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin sydd yn ffinio â Sir Benfro, wrth i drefnwyr fabwysiadu “ffordd cwbl newydd” o weithio gan “ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd”.
Bydd yr wŷl yn nodi 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
"Arloesol"
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Davies roedd y ffaith fod yr ŵyl gyhoeddi yn cael ei chynnal yn nhref Arberth yn arloesol gan ei bod yn cwmpasu tair sir.
"Dyw e ddim wedi digwydd o'r blaen, mae'n arloesol ein bod ni'n Arberth, dyw'r Gŵyl Gyhoeddi ddim wedi bod yn agos i Arberth erioed yn ei hanes o ganrifoedd," meddai.
"Pa le gwell i arloesi felly wrth gynnal ein cymdogion hefyd a nhw'n cynnal ni yng nghyd-destun Eisteddfod y Garreg Las?
"Ma' hi ar linell y Landsker, yr equator ieithyddol oedd Llwyd Williams yn cyfeirio at, a ma'r 'Steddfod yn ei chyfanrwydd nid yn unig ynglyn â dathlu beth y'n ni'n wybod a beth y'n ni wedi cyfarwyddo 'da dros y blynydde ond i estyn allan hefyd a lle gwell i neud hynny nag ar y linell Landsker hynny yng nghyd-destun Sir Benfro."
Wrth gael ei holi yn yr ŵyl ddydd Sadwrn, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg Mark Drakeford: "Mae'n wych i ddod i ben yr wythnos yn Arberth, tyrfa fawr o bobl, dathlu'r iaith Gymraeg a dyna beth yw pwrpas y Bil (y Gymraeg ac Addysg),wrth gwrs i helpu ni greu miliwn o siaradwyr a mwy.
"Mae'n wych i fod yma a mae wedi bod yn ddiwrnod hanesyddol yn yr iaith."
Mae ffrae wedi corddi yn Sir Benfro yn ddiweddar am addysg cyfrwng Cymraeg, wedi i ddirpwy arweinydd Cyngor Sir Penfro awgrymu bod rhai rhieni yn anfon eu plant i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Hwlffordd oherwydd safon yr addysg, gan ychwanegu "nad ydyn nhw yn poeni dim" eu bod nhw'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng yr iaith.
Fe wnaeth y cynghorydd Llafur Paul Miller y sylwadau yn ystod trafodaeth cabinet ynglŷn â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Fe alwodd y Cynghorydd Miller ar y cyngor i "ddatblygu methodoleg ynglŷn â phwy yn union sydd eisiau addysg cyfrwng Cymraeg a phwy sy'n dewis yr opsiwn er mwyn cael ysgol dda".
Cytunodd aelodau'r cabinet i gefnogi gwelliant gan y Cynghorydd Miller yn galw ar y Cyfarwyddwr Addysg i greu dull o "fesur y galw yn well" am addysg Gymraeg.
Mae Mr Miller yn mynnu nad yw'r cabinet yn wrth Gymreig.
Unioni'r cam
Wrth ymateb i hynny dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddod y Garreg Las, John Davies, sydd hefyd yn gynghorydd yn Sir Benfro: "Wrth gwrs, ma' beth y'ch chi wedi glywed a'i weld yn y penawdau yn anffodus iawn ymhlith dwi'n gobeithio y lleiafrif yn bendant o gynghorwyr sir a siarad fel cynghorydd sir, ond hefyd 'dyn ni'n gobeithio yn y cyd-destun o'r cymunedau hefyd.
"Ma' hon nawr yn gyfle i unioni'r cam hynny a 'falle'r cam-agwedd hynny sydd 'di bodoli mewn rhai mannau yn Sir Benfro."
Yr wythnos hon, cymeradwyodd y Senedd ddeddfwriaeth i "roi cyfle i bob plentyn ar hyd a lled Cymru allu siarad Cymraeg yn hyderus, be bynnag fo'u cefndir neu iaith yr ysgol y maent yn astudio ynddi."
Bwriad Bil y Gymraeg ac Addysg, a gafodd ei phasio gan y Senedd brynhawn Mawrth, yw cau'r bwlch yng ngallu disgyblion o wahanol ysgolion i siarad Cymraeg.
Ychwanegodd Mark Drakeford: "Yn y gogledd o Sir Benfro, chi'n clywed yr iaith bob dydd, mae pobl yn defnyddio'r iaith bob dydd. Yn y de dros y blynyddoedd, mae wedi bod llai o siaradwyr Cymraeg ond nawr ni'n weld fwy a mwy o bobl yn y de yn Sir Benfro yn dod i siarad Cymraeg ac mae hwnna i gyd yn cyfrannu at yr uchelgais ni nid jest i tyfu y nifer o bobl sy'n siarad Cymraeg ond i ddwblu defnydd yr iaith bob dydd hefyd."
Wrth gael ei holi am alwad y Cynghorydd Miller i ddatblygu methodoleg ynglŷn â phwy yn union sydd eisiau addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir, dywedodd Mr Drakeford: "Alla i ddim gweld pam i ofyn i rieni pam maen nhw yn dewis Cymraeg neu pam maen nhw'n dewis Saesneg."
Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las, John Davies, mae brwdfrydedd yn lleol tuag at y brifwyl yn 2026. £400,000 yw'r targed ariannol i'w godi'n lleol. Dywedodd fod tua £140,000 eisoes wedi ei godi.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd 1 - 8 Awst 2026.