Newyddion S4C

Dim 'pedwar clwb rygbi wedi eu hariannu'n gyfartal' yn y dyfodol medd URC

Pedwar clwb rygbi

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi na fydd ganddyn nhw "bedwar clwb yn cael eu hariannu'n gyfartal" yn y dyfodol. 

Yn ôl adroddiadau yn y wasg, mae'r Undeb yn ystyried cwtogi'r pedwar tîm rhanbarthol i dri, ond dyw'r datganiad fore Sul ddim yn cadarnhau hynny. 

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau nad yw'r Gweilch a'r Scarlets wedi arwyddo'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) cyn y dyddiad olaf a oedd wedi ei osod.  

Yn ôl yr undeb, maen nhw wedi gwneud y "penderfyniad anodd ond angenrheidiol" i roi hysbysiad dwy flynedd i ddod â'u cytundeb presennol i ben, er mwyn mynd i'r afael â'r dyledion presennol. 

Mae'r Dreigiau a Rygbi Caerdydd wedi arwyddo'r cytundeb newydd, a oedd o dan ystyriaeth ers Awst. 

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, byddan nhw'n gweithio'n agos gyda'r pedwar clwb proffesiynol er mwyn dod i gytundeb ar y ffordd orau i gamu ymlaen wedi Mehefin 2027, gydag "argymhellion adeiladol a realistig" yn cael eu hystyried. 

Ond mae'r datganiad yn nodi na fydd y system yn dychwelwyd i bedwar clwb sy'n cael eu hariannu'n gyfartal. 

'Cyfnod o ansicrwydd'

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney: "Rydym yn parhau i siarad gyda'r pedwar clwb am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol. 

"Rydym yn cydnabod y bydd hwn yn gyfnod o ansicrwydd ac rydym wedi ein hymrwymo i drin yr holl glybiau, chwaraewyr a'r cefnogwyr gyda pharc a thegwch drwy gydol y broses. 

"Rydym yn cydnabod yr ymrwymiad parhaus gan bob clwb i rygbi Cymru ac fe fyddwn yn llunio cynllun newydd gyda buddiannau gorau'r gêm gyfan yng Nghymru yn flaenllaw yn ein meddwl."

Ychwanegodd cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall: “Bydd cam nesaf yr ymgynghoriad, fel bob amser, yn cael ei gynnal gyda buddiannau gorau rygbi Cymru gyfan yn brif flaenoriaeth.”

Bu’n rhaid i Undeb Rygbi Cymru gymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd wedi i gorff cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill.

Dridiau yn ôl, cyhoeddodd yr undeb eu bod yn gwahodd buddsoddwyr i ddangos diddordeb i brynu Rygbi Caerdydd.

Mae’n nhw wedi gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb i roi gwybod iddyn nhw erbyn diwedd y dydd ar 6 Mehefin 2025.

Dywedodd yr undeb y byddai yn “well ganddyn nhw” pe bai pob clwb proffesiynol yng Nghymru mewn dwylo annibynnol.

Mae gan Rygbi Caerdydd ddyledion o tua £6 miliwn i Undeb Rygbi Cymru (i'w ad-dalu erbyn 2029) ac mae nhw wedi addo talu £500,000 i eraill.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.