Dau wedi eu lladd wrth i long daro Pont Brooklyn yn Efrog Newydd
Mae dau o bobol wedi eu lladd ac 19 arall wedi eu hanafu ar ôl i long hwylio o Mecsico sy'n hyfforddi'r llynges daro yn erbyn Pont Brooklyn yn Efrog Newydd.
Yn ôl yr heddlu, roedd 277 o bobl yn y llong nos Sadwrn wrth i'r cyflenwad trydan ddiffodd arni, tra roedd y capten yn ceisio ei throi.
Ond fe lithrodd tuag at y bont.
Yn ôl yr awdurdodau, roedd aelodau o'r criw yn sefyll ar yr hwylbrenni cyn iddyn nhw dorri.
Dywedodd bobl a oedd yn yr ardal ar y pryd bod sgrechfeydd i'w clywed.
Cadarnhaodd maer Efrog Newydd Eric Adams ar gyfrwng X bod dau dau berson wedi marw, ac mae dau o'r 19 sydd wedi eu hanafu mewn cyflwr difrifol.
Does dim difrod i Bont Brooklyn, ac mae bellach wedi ailagor wedi i archwiliad gael ei gynnal.
Mae'r heddlu'n credu mai "problemau mecanyddol" a thoriad i'r cyflenwad trydan achosodd y gwrthdrawiad.
Yn hyfforddi morwyr, gadawodd y llong borthladd Acapulco ym Mecsico ar 6 Ebrill, yn ôl y llynges. Roedd hi ar ei ffordd i Wlad yr Iâ.