Dynes 61 oed o Geredigion yn osgoi carchar wedi protest yn Heathrow
Dywedodd yr ymgychwyr amgylcheddol eu bod nhw yn cymryd rhan mewn ymgyrch ryngwladol eang, pan gafodd y naw eu harestio yn y maes awyr yn Llundain ar 24 Gorffennaf.
Roedd ganddyn nhw offer i dorri metel a glud yn eu meddiant.
Cafodd y naw eu cyhuddo o gynllwynio i achosi trafferth mewn man cyhoeddus.
Roedd rhai o'r diffynyddion eisoes wedi cwblhau eu dedfryd, a chafodd y gweddill ddedfrydau wedi eu gohirio.
Dywedodd y Barnwr Hannah Duncan na chafodd unrhyw ddifrod nac anaf ei achosi.
Clywodd y llys fod saith o bobl mewn dau grŵp wedi eu stopio gan yr heddlu yn agos i ffens ym Maes Awyr Heathrow tua 9:00 y bore hwnnw.
Yn ôl Emma Fielding ar ran yr erlyniad, roedden nhw yn cario bagiau cefn.
Ymhith yr offer a gafodd eu darganfod yn y bagiau, roedd offer torri, gwydr, siacedi oren llachar, glud cryf, ac offer i warchod y clustiau.
Y bwriad, yn ôl yr erlyniad oedd amharu ar weithredoedd y maes awyr.
Yn y llys gyda Hannah Schafer o Danygroes, roedd Sally Davidson, 37, Adam Beard, 56, Luke Elson, 32, Luke Watson, 35, Sean O’Callaghan, 30, Rosa Hicks, 29, William Goldring, 27, a Rory Wilson, 26 oed.
Roedd Wilson wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol.
Cafodd pob un o'r diffynyddion ag eithrio Schafer a Wilson orchymyn i dalu £2,000 tuag at gostau'r llys.
Cafodd Wilson, o Addison Road, Guildford, ddedfryd o 10 mis ac roedd e eisoes wedi cwblhau'r ddedfryd honno.
Cafodd Watson, o Manuden, Essex, ddedfryd o 15 mis, gydag yntau hefyd wedi cwblhau ei ddedfryd.
Cafodd Elson, o Bundocks Walk, Llundain, a Beard o Stroud, ddedfryd o 12 mis, gyda'r cyfnod wedi ei gwblhau.
11 mis wedi ei ohirio am ddwy flynedd oedd dedfryd O’Callaghan, o Mickleham, Surrey, gyda gorchymyn i wneud 120 o oriau o waith di-dâl.
Cafodd Davidson, o Portland, Dorset 12 mis wedi ei ohirio am ddwy flynedd a bydd yn rhaid iddi gyflawni 180 o oriau o waith di-dâl.
Cafodd Hicks, o Gaerwynt ddedfryd o 15 mis, ac mae hi eisoes wedi cwblhau'r cyfnod hwnnw.
Mae Goldring, o Lundain wedi cael dedfryd o 15 mis wedi ei gohirio am ddwy flynedd, gyda 150 o oriau o waith di-dâl.