Cynnal seremoni urddo'r Pab Leo XIV yn Y Fatican
Mae seremoni urddo'r Pab Leo XIV wedi cael ei chynnal yn ninas Y Fatican fore Sul.
Roedd y seremoni yn nodi dechrau swyddogol ei gyfnod fel Pab.
Cafodd y Pab Leo XIV ei ddewis fel arweinydd newydd yr Eglwys Gatholig yn gynharach y mis hwn wedi marwolaeth y Pab Ffransis.
Yn gynharach fore Sul, fe deithiodd yng ngherbyd bychan y Pab am y tro cyntaf ers cael ei ethol, gan annerch y gynulleidfa yn Sgwâr San Pedr.
Roedd arweinwyr byd, gan gynnwys dirprwy arlywydd America JD Vance ac Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky yn bresennol.
Fe gafodd gwasanaeth cyntaf y Pab Leo ei gynnal ar 9 Mai ychydig wedi i'r Conclaf ei ethol.
Galwodd am undod yn yr Eglwys Gatholig a diwedd i ryfel.
Y Pab Leo XIV ydy'r dyn cyntaf o ogledd America i gael ei ethol yn arweinydd yr Eglwys Gatholig.
Mae'n dod o Chicago, ac mae'n 69 oed.