Newyddion S4C

Hwlffordd v Caernarfon: Rownd derfynol gemau ail gyfle Cymru Premier JD

caernarfon v hwlffordd.jpg

Bydd tymor 2024/25 yn dod i ben brynhawn Sul pan fydd Hwlffordd yn herio Caernarfon am y tocyn olaf i Ewrop a lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA.

Mae’r tymor cyffredinol wedi dod i ben ac mae’r Seintiau Newydd a Pen-y-bont wedi sicrhau eu lle’n Ewrop, ond mae un cyfle arall ar ôl i enillydd y gemau ail gyfle.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am y pedwerydd tymor yn olynol, gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Pen-y-bont orffennodd yn yr ail safle am y tro cyntaf erioed, a gan i’r Seintiau gwblhau’r trebl trwy guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru, mae Pen-y-bont felly yn camu’n syth i rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA.

Am y tro cyntaf ers 21 o flynyddoedd mae Hwlffordd wedi cadarnhau’r 3ydd safle, ac felly fe gafodd y tîm o Sir Benfro gyfle yn syth i fynd i rownd derfynol y gemau ail gyfle i wynebu Caernarfon.

Mae’r Cofis wedi gorfod ennill gemau cartref yn erbyn Y Barri a Met Caerdydd i gyrraedd y rownd derfynol, tra bod Hwlffordd heb chwarae ers eu gêm gynghrair olaf yn erbyn Y Seintiau Newydd fis yn ôl.

Hwlffordd (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sul – 17:10 (S4C)

Hwlffordd a Chaernarfon yw’r ddau glwb diwethaf i ennill y gemau ail gyfle Ewropeaidd gyda’r Adar Gleision yn ennill yn 2022/23, a’r Cofis yn fuddugol yn 2023/24.

Bydd Caernarfon yn anelu i fod y tîm cyntaf i ennill y gemau ail gyfle am ddau dymor yn olynol wedi i’r Cofis guro’r gystadleuaeth y flwyddyn diwethaf a chamu i Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ond mae gan Hwlffordd record 100% yn y gemau ail gyfle ar ôl ennill eu hunig dwy gêm flaenorol yn y gystadleuaeth.

Mae gan dri clwb arall record berffaith yn y gemau ail gyfle, ond yn rhyfeddol fe aeth y tri rheiny i’r wal yn fuan wedi eu llwyddiant – Castellnedd (2010/11), Llanelli (2011/12), Derwyddon Cefn (2017/18).

Mae wyth allan o naw o gemau ail gyfle Caernarfon wedi cael eu chwarae gartref ar yr Oval, tra nad yw Hwlffordd erioed wedi chwarae gêm ail gyfle gartref ar Ddôl y Bont.

Er fod gan Hwlffordd record 100% yn y gemau ail gyfle, tydyn nhw erioed wedi ennill gêm mewn 90 munud yn y gystadleuaeth gan guro Met Caerdydd a’r Drenewydd ar giciau o’r smotyn yn nhymor 2022/23.

Aeth tîm Tony Pennock ymlaen i guro Shkendija (Gog Macedonia) ar giciau o’r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn colli wedi amser ychwanegol yn erbyn B36 Torshavn (Ynysoedd Ffaroe) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.

Cyn 2023 doedd Hwlffordd m’ond wedi chwarae un rownd Ewropeaidd ac hynny yn haf 2004 gan golli’r ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar o Wlad yr Iâ.

Er gorffen yn 3ydd yn y tabl eleni dyw Hwlffordd m’ond wedi ennill un o’u naw gêm ddiwethaf, ac mi fydd hi’n ddifyr gweld os bydd o mis o seibiant wedi gwneud lles i garfan yr Adar Gleision.

Yn y gorffennol mae nifer o dimau wedi dioddef cwymp yn eu perfformiadau ar ôl eu profiad cyntaf yn Ewrop, ond mae Caernarfon wedi adeiladu ar eu llwyddiant llynedd gan orffen un safle’n uwch y tymor hwn.

Llwyddodd Caernarfon i guro Crusaders (Gog Iwerddon) ar giciau o’r smotyn yn eu rownd Ewropeaidd gyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2024, cyn colli’n drwm yn erbyn Legia Warsaw (Gwlad Pwyl).

Mae tîm Richard Davies wedi sicrhau’r 4ydd safle eleni gan ddod yn hafal â’u tymor gorau erioed yn yr uwch gynghrair (4ydd yn 2018/19 a 2021/22).

Mae gan Gaernarfon record gryf iawn yn y gemau ail gyfle ar ôl ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth.

Mae’r Cofis wedi chwarae naw o gemau ail gyfle i gyd, a’r penwythnos diwethaf oedd y tro cyntaf iddyn nhw orfod mynd i giciau o’r smotyn wedi i’w rownd gynderfynol yn erbyn Met Caerdydd orffen yn ddi-sgôr.

Ben Hughes oedd yr arwr i Gaernarfon gyda’r golwr ifanc, sydd ar fenthyg o Abertawe, yn arbed dwy o giciau Met Caerdydd.

A byddai hi ddim yn syndod pe bae’r rownd derfynol ddydd Sul yma yn mynd i giciau o’r smotyn hefyd gan i’r dair gêm ddiwethaf rhwng Hwlffordd a Chaernarfon orffen yn gyfartal.

Dyw Caernarfon heb ennill dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, a dyw’r Cofis m’ond wedi ennill un o’u 16 gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn yr Adar Gleision.

Mae 12 o’r 16 gêm rheiny wedi gorffen yn gyfartal felly mae’n gaddo i fod yn gêm agos a chystadleuol ar Ddôl y Bont brynhawn Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.