Arestio dyn a dynes wedi gwrthdrawiad rhwng beiciwr a cherbyd
Mae dyn a dynes wedi eu harestio ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerbyd a beic yn ardal Trelluest (Grangetown) yng Nghaerdydd fore Sadwrn.
Mae'r dyn 72 oed o ardal y Rhath a oedd ar y beic, wedi ei gludo i ysbyty yn lleol, gydag anafiadau allai beryglu ei fywyd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 08:40.
Mae gyrrwr y cerbyd , dyn 19 oed o Abersili ym Mro Morgannwg a dynes 24 oed a oedd yn teithio yn yr un cerbyd o Ddinas Powys, Bro Morgannwg, wedi eu harestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol, yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion, ac mae modd cysylltu â nhw gydag unrhyw wybodaeth drwy nodi'r rhif 2500155483.